Bydd Rob Page yn enwi ei garfan ddydd Mawrth ar gyfer y ddwy gêm yn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia’r wythnos ganlynol. O ystyried carfanau diweddar y rheolwr, go brin y bydd llawer o newid, ond roedd un cyfle olaf i’r chwaraewyr greu argraff y penwythnos hwn.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Mae’n destun cwestiwn cwis erbyn hyn; pryd a oedd y tro diwethaf i golwr o Gymru chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr? Ar y fainc yr oedd Danny Ward a Wayne Hennessey eto’r penwythnos hwn wrth i Gaerlŷr groesawu Burnley ddydd Sadwrn. Parhau i aros am ei gyfle yng ngharfan Burnley y mae Connor Roberts hefyd.

Fe wnaeth Ward chwarae yn y Cwpan EFL ganol wythnos serch hynny a chadw llechen lân mewn buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Millwall. A’r ateb i’r cwestiwn gyda llaw… Hennessey i Crystal Palace yn erbyn Lerpwl ar y 24ain o Fehefin, 2020 (4-0 i Lerpwl).

Nid oedd Fin Stevens na Neco Williams yng ngharfanau Brentford a Lerpwl wrth i’r ddau dîm wynebu ei gilydd nos Sadwrn ond roedd Stevens yn un arall a gafodd gyfle yn y Cwpan ganol wythnos, yn chwarae’r ugain munud olaf wrth i’w dîm chwalu Oldham o saith gôl i ddim.

Am unrhyw funudau yn y gynghrair ar hyn o bryd, rhaid edrych tuag at Leeds. Dechreuodd Dan James gêm Leeds yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn cyn cael ei eilyddio ar hanner amser. Efallai ei fod wedi blino yn dilyn diwrnod prysur ddydd Mawrth; roedd yn bresennol ar gyfer genedigaeth ei fab ym Manceinion yn y prynhawn cyn rhuthro i Lundain mewn hofrennydd i chwarae 120 munud a sgorio cic o’r smotyn wrth i’w dîm drechu Fulham yn y Cwpan EFL gyda’r nos.

Dechreuodd Tyler Roberts y gêm honno ganol wythnos hefyd a daeth oddi ar y fainc ar gyfer chwarter olaf y golled o ddwy gôl i un yn erbyn West Ham ar y penwythnos.

Dechrau ar y fainc a wnaeth Ben Davies a Joe Rodon i Spurs yng ngêm ddarbi gogledd Llundain yn erbyn Arsenal brynhawn Sul.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Cafodd Abertawe eu buddugoliaeth gartref gyntaf o’r tymor yn y Bencampwriaeth wrth iddynt drechu Huddersfield o gôl i ddim ddydd Sadwrn. Roedd Ben Cabango yn yr amddiffyn a gadwodd lechen lân a chafodd Liam Cullen ugain munud oddi ar y fainc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Brandon Cooper i’r Elyrch ond chwaraeodd Sorba Thomas y gêm gyfan i’r gwrthwynebwyr.

Thomas yw’r enw newydd mwyaf tebygol pan fydd carfan Cymru’n cael ei henwi. Cynhesodd y Wal Goch ato’r wythnos hon pan roddodd Ddraig Goch dros groes San Siôr ar ei gerdyn FIFA. Ond efallai y bydd tîm hyfforddi Cymru wedi cael eu plesio’n fwy gan yr hyblygrwydd a ddangosodd yn erbyn Abertawe, yn chwarae mewn safle mwy ymosodol ar y chwith ar ôl chwarae’r gemau diwethaf fel ôl-asgellwr dde.

Roedd hi’n benwythnos i’w anghofio i Gaerdydd wedi iddynt gael crasfa o bum gôl i un yn Blackburn. Dechreuodd Will Vaulks, Rubin Colwill a Kieffer Moore ac roedd yr Adar Gleision fymryn yn well yn yr ail hanner wedi i Mark Harris ddod i’r cae. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Sam Bowen.

Dechreuodd Adam Davies yn y gôl a James Chester yng nghanol yr amddiffyn i Stoke am y tro cyntaf y tymor hwn wrth iddynt wynebu Hull. Gwnaeth hynny wahaniaeth wrth iddynt gadw llechen lân brin mewn buddugoliaeth o ddwy i ddim. Parhau i fod allan o’r garfan y mae Joe Allen a Morgan Fox. Chwaraeodd Matthew Smith y gêm gyfan i Hull, sydd yn parhau i straffaglu tua gwaelodion y tabl.

Yr unig dîm o dan Hull yw Derby, wedi iddynt golli deuddeg pwynt am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yr wythnos hon. Rwbiwyd halen yn y briw wrth iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Sheffield United ddydd Sadwrn. Fe allai Tom Lawrence fod wedi achub pwynt i’r Meheryn yn eiliadau olaf y gêm ond tarodd ei ymdrech y postyn. Dechreuodd Rhys Norrington-Davies i’r Blades.

Ym mhen arall y tabl, arhosodd Bournemouth ar y brig gyda buddugoliaeth yn erbyn Luton. Dechreuodd David Brooks a Chris Mepham ar y fainc, gyda Brooks yn aros arni a Mepham yn cael deuddeg munud ar y diwedd. Chwaraeodd Tom Lockyer y gêm gyfan i’r Hatters ac ymunodd Cymro arall ag ef yn Luton yr wythnos hon wrth i’r chwaraewr canol cae ifanc, Elliot Thorpe arwyddo i dîm Nathan Jones.

Collodd Fulham ychydig o dir ar y ceffylau blaen gyda gêm gyfartal yn erbyn Bristol City. Un gôl yr un a oedd hi gyda Harry Wilson yn creu gôl Fulham i Aleksandar Mitrovic. Ar y fainc yr oedd Andy King i Bristol City.

Cadwodd Chris Maxwell lechen lân wrth i Blackpool guro Barnsley ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Ben Williams i’r gwrthwynebwyr.

Nid oedd hi’n benwythnos cystal i gôl-geidwad arall o Gymru. Ildiodd Dave Cornell dair gôl mewn saith munud wrth i Peterborough golli o dair i ddim yn erbyn Coventry nos Wener.

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi rhwng Nottingham Forest a Millwall yn y City Ground ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Brennan Johnson y rhan fwyaf o’r gêm i’r tîm cartref ond eilydd hwyr a oedd Tom Bradshaw i’r ymwelwyr.

Sgoriodd Andrew Hughes i Preston yn y Cwpan EFL ganol wythnos ac roedd yn rhan o amddiffyn a gadwodd lechen lân mewn gêm ddi sgôr yn erbyn Birmingham yn y gynghrair ddydd Sadwrn. Mae Ched Evans yn parhau i fod wedi ei anafu.

 

*

 

Cynghreiriau is

Y gêm o brif ddiddordeb i gefnogwyr Cymru yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn a oedd honno rhwng Charlton a Portsmouth ar y Valley. Yn dilyn wythnosau o feirniadaeth gan y cefnogwyr, nid oedd Chris Gunter yng ngharfan Charlton ond fe wnaeth Adam Matthews ddechrau yn ei le yn safle’r cefnwr de. Roedd Joe Morrell yn nhîm Pompey wrth iddi orffen yn gyfartal, dwy gôl yr un. Ar y fainc yr oedd Ellis Harrison a Louis Thompson i’r ymwelwyr.

Joe Morrell

Colli o gôl i ddim a fu hanes y pedwar Cymro yn nhîm Bolton. Dechreuodd Gethin Jones, Jordan Williams, Josh Sheehan a Lloyd Isgrove yn erbyn Sunderland. Ac er iddo ddechrau a sgorio ei gôl gyntaf dros y clwb yn y Cwpan EFL ganol wythnos, ar y fainc yr oedd Nathan Broadhead i Sunderland.

Luke Jephcott a sgoriodd gôl gyntaf Plymouth wrth iddynt daro nôl i guro Doncaster o ddwy gôl i un, y Cymro’n sgorio o’r smotyn. Roedd James ‘un cap’ Wilson yn nhîm Plymouth hefyd.

Eilydd hwyr a oedd Gwion Edwards wrth i Wigan guro Cheltenham o ddwy gôl i ddim i aros ar frig y tabl, ac felly hefyd Chris Norton i’r gwrthwynebwyr.

Gêm gyfartal a gafodd cyn glwb Edwards, Ipswich, yn erbyn Sheffield Wednesday. Roedd Lee Evans allan o’r garfan gydag anaf ond chwaraeodd Wes Burns ran helaeth o’r gêm.

Roedd buddugoliaeth i Regan Poole wrth i Lincoln ennill oddi cartref yn Burton ond colli a fu hanes Joe Jacobson a Sam Vokes gyda Wycombe yn erbyn yr MK Dons.

Dychwelodd Billy Bodin i dîm Rhydychen yn dilyn anaf, yn chwarae’r ugain munud olaf o gêm gyfartal yn erbyn Gillingham.

Yn yr Ail Adran, ildiodd Tom King ddwywaith mewn gêm gyfartal yn erbyn Northampton ac nid oedd Jonny Williams yng ngharfan Swindon ar gyfer eu gêm ddi sgôr hwy yn erbyn Colchester. Mae’n debyg i Joniesta ddioddef cyfergyd wedi i bêl ei daro yn ei ben ar ôl i sesiwn ymarfer ddod i ben ddydd Gwener, chwarae’n troi’n chwerw mae’n debyg.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd canlyniad da i Ben Woodburn a’i dîm, Hearts, yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn wrth iddynt drechu Livingston o dair gôl i ddim. Chwaraeodd Woodburn y gêm gyfan ond ar y fainc yr oedd Daniel Barden i’r gwrthwynebwyr. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Alex Samuel i Ross County hefyd wrth iddynt hwy wynebu Motherwell.

Colli o dair gôl i ddwy a fu hanes Ryan Hedges gydag Aberdeen wrth iddynt deithio i Paisley i wynebu St Mirren ddydd Sul. Chwaraeodd y Cymro 72 munud yn ei gêm gyntaf yn ôl wedi anaf.

Parhau y mae dechrau da Dundee United i’r tymor yn dilyn gêm gyfartal un gôl yr un oddi cartref yn erbyn Celtic ddydd Sul. Chwaraeodd Dylan Levitt y gêm gyfan i’r ymwelwyr gan greu argraff unwaith eto.

Dylan Levitt

Yn ôl yr arfer, mae ambell un yn galw am i Christian Doidge gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru. Ond fe wnaf i fwyta fy het os gwnaiff blaenwr naw ar hugain oed sydd ddim ond wedi rhwydo naw gwaith yn ei 38 gêm gynghrair ddiwethaf, ac sydd wedi ei anafu, gael ei enwi mewn carfan am y tro cyntaf ar gyfer dwy gêm gystadleuol bwysig. Roedd allan o garfan Hibs eto’r penwythnos hwn.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, Owain Fôn Williams a oedd seren y gêm wrth i Dunfermline gael gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn ei gyn glwb, Hamilton.

Eilydd hwyr a oedd James Lawrence ym muddugoliaeth St. Pauli o dair gôl i un oddi cartref yn erbyn Karlsruher yn y 2.Bundesliga brynhawn Sadwrn ac roedd Gareth Bale yn absennol o garfan Real Madrid eto nos Sadwrn wrth i’r dyfalu am ei ffitrwydd ef barhau.

Nid oedd deuddeg munud oddi ar y fainc yn ddigon o amser i Rabbi Matondo wneud argraff wrth i’w dîm, Cercle Brugge, golli o ddwy i un yn Gent ym mhrif adran Gwlad Belg ddydd Sul.

Ymddangosiad fel eilydd a gafodd Aaron Ramsey yn Serie A brynhawn Sul hefyd ond roedd ei dîm Juventus ef eisoes ar y blaen, tair gôl i ddwy y sgôr terfynol.

Parhau y mae’r aros i weld Ethan Ampadu yng nghit hyfryd Venezia. Nid oedd yn garfan wrth iddynt golli ym Milan ganol wythnos ond mae’n debyg ei fod yn hyfforddi o’r diwedd ac efallai y caiff ei gynnwys am y tro cyntaf wrth i’w dîm groesawu Torino nos Lun.