Mae mwy o fenywod na dynion wedi’u hethol i Senedd Gwlad yr Iâ.

Pleidiau’r tir canol sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf, ac mae 33 o’r rhai sydd wedi’u hethol i’r Althing, y senedd, yn fenywod o gymharu â 30 o ddynion.

Enillodd y tair plaid sy’n rhan o glymblaid y prif weinidog Katrin Jakobsdottir 37 o seddi yr un – dwy yn fwy na’r etholiad diwethaf – ac mae’n debygol mai dyna fydd strwythur y llywodraeth newydd.

Ar y cyfan, dydy pleidiau asgell chwith ddim wedi gwneud yn dda yn yr etholiad ond o’r pleidiau hynny y daw’r rhan fwyaf o fenywod fel arfer – tuedd sydd wedi bod ers degawd, yn ôl yr Athro Silja Bara Omarsdottir.

“Dydy hi ddim bellach yn dderbyniol i anwybyddu cydraddoldeb rhywiol wrth ddewis ymgeiswyr,” meddai.

Y canlyniadau

Roedd polau piniwn wedi darogan buddugoliaeth i bleidiau asgell chwith, gyda deg o bleidiau’n cystadlu am seddi.

Ond pleidiau yn y canol enillodd y rhan fwyaf o seddi – 16 – a saith ohonyn nhw’n fenywod.

Y Blaid dros Gynnydd [Progressive Party] wnaeth y cynnydd mwyaf, gan ennill 13 o seddi, pump yn fwy na’r tro diwethaf.

Collodd Plaid Werdd y Chwith, plaid y prif weinidog, sawl sedd ond wnaethon nhw gadw wyth, sy’n well na’r disgwyl.

Dydy’r tair plaid sydd mewn grym ddim wedi cyhoeddi a fyddan nhw’n clymbleidio eto ac fe allai gymryd dyddiau os nad wythnosau i ddod i gytundeb a gwneud cyhoeddiad.