Dylai hapusrwydd fod yn flaenoriaeth i bobol yn y Deyrnas Unedig o dan reolaeth Llywodraeth Lafur, yn ôl aelod seneddol Canol Caerdydd a llefarydd diwylliant y blaid.

Daw sylwadau Jo Stevens yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton, lle mae hi wedi pwysleisio bod hapusrwydd “yr un mor bwysig â thwf economaidd” ac wedi ategu bod y blaid eisiau sicrhau bod pob penderfyniad sy’n cael ei wneud yn helpu lles pobol.

Mae hi hefyd yn dweud bod y blaid yn herio cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i geisio dileu twyll ar eu llwyfannau ac i sicrhau eu bod nhw’n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy’n ymddangos ar eu gwefannau.

Mae hi wedi diolch i’r Gwasanaeth Iechyd am eu gofal yn ystod “profiad brawychus iawn” pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty â Covid-19, gan ddweud ei bod hi’n “un o’r rhai lwcus”.

“Dw i ddim ar fy mhen fy hun wrth fod eisiau blaenoriaethu iechyd, lles a hapusrwydd i bobol ledled y wlad,” meddai.

“Fel y gwnaeth [yr arweinydd Syr Keir Starmer] amlinellu yn ei gais am yr arweinyddiaeth, mae hapusrwydd pobol ym Mhrydain yr un mor bwysig â thwf economaidd.

“Bydd mynegai byw’n iach Llafur yn sicrhau y byddai’n rhaid i bob penderfyniad llywodraeth wella lles, yn union fel y mae’r OBR yn olrhain gwariant y llywodraeth.

“Mae bywyd iach a hapus yn hawliau y bydd Llafur yn brwydro amdanyn nhw.

“Dylai pawb gael y cyfle i gael gwaith o safon a hamdden o safon.”