Mae gyrrwr lorïau o Bacistan sy’n gweithio yng Nghatalwnia wedi codi amheuon ynghylch cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddenu mwy o yrwyr o’r cyfandir i fynd i’r afael â’r prinder sy’n cael effaith ar sawl diwydiant.
Daw sylwadau Imran Mustafa ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cynllun fisa am dri mis fydd yn gweld 5,000 o yrwyr lorïau a 5,500 o weithwyr dofednod yn cael cytundebau tri mis i helpu i gyflenwi silffoedd archfarchnadoedd â thwrcwn ar gyfer y Nadolig ac i sicrhau cyflenwadau digonol o betrol mewn gorsafoedd yn sgil prinder dros y dyddiau diwethaf.
Yn ôl y dyn 32 oed oedd wedi symud i Barcelona wyth mlynedd yn ôl, bydd gyrwyr yn amharod i symud i’r Deyrnas Unedig am dri mis yn unig gan y byddai’n rhy ddrud ac ni fyddai’n rhoi digon o amser iddyn nhw ddysgu’r llwybrau ar y ffyrdd.
Fe fu’n gweithio fel gyrrwr ers tair blynedd, ac mae e’n awyddus i symud i’r Deyrnas Unedig i weithio.
Ond dydy’r fisa 12 wythnos ddim yn ddigon o amser i gyfiawnhau gweddnewid ei fywyd, meddai.
“Fisa dros dro yw e, ac mae e am gyfnod byr iawn o amser yn unig,” meddai.
“Y dyddiau hyn, does gan bobol mo’r arian i deithio.
“Does neb eisiau teithio am dri mis yn unig.
“Gallwn i symud gan fy mod i’n byw ar fy mhen fy hun, ond mae pobol eraill, pobol o Ffrainc, pobol o’r Almaen, pobol o Sbaen, eisoes yn ennill llawer o arian, felly pam fydden nhw’n symud i’r Deyrnas Unedig am dri mis ar fisa dros dro?
“Byddwn i’n symud, ond nid am dri mis.
“Dydy e ddim yn ddigon o amser gan nad ydyn ni’n adnabod y ffyrdd, y mapiau na sut mae’r cyfan yn gweithio.
“Dw i’n credu y bydd yn achosi llawer o broblemau neu ddamweiniau.”
Digon o waith
Dywed Imran Mustafa fod digon o waith i’w gael yng Nghatalwnia a Sbaen ar y cyfan er nad yw’r cyflog yn dda.
Mae’n dweud bod gyrwyr yno’n gweithio diwrnodau hir a bod prinder gyrwyr yno’n golygu bod galw am yrwyr.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw un yn symud am dri mis, hyd yn oed o Rwmania neu o Wlad Pwyl,” meddai.
“Mae angen i chi wneud llawer o brofion, llenwi llawer o ffurflenni ac mae’n ddrud.”
Wfftio honiadau
Yn y cyfamser, mae un o benaethiaid cymdeithas lorïau’r Road Haulage Association yn gwadu honiadau Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, mai fe oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r wybodaeth arweiniodd at bobol yn rhuthro allan i brynu petrol rhag ofn y byddai prinder.
Dywed Rod McKenzie, rheolwr gyfarwyddwr y gymdeithas, yn dweud mai “nonsens” yw’r honiadau bod y stoc petrol ddau draean o’r hyn y dylai fod a bod hynny wedi arwain pobol i fynd allan i brynu petrol yn eu heidiau.
Er gwaetha’r ffaith iddo wadu’r honiadau, mae Grant Shapps wedi eu hailadrodd wrth siarad â Sky News heddiw (dydd Sul, Medi 26).
Dywedodd fod y sylwadau wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn “cyfarfod preifat” a bod hynny wedi achosi “cryn dipyn o bryder wrth i bobol, yn ddigon naturiol, ymateb i’r pethau hynny”.
Ond dywed Rod McKenzie mai “nonsens yw’r honiadau yn fy erbyn”.
“Doeddwn i ddim yn y cyfarfod,” meddai, gan ychwanegu nad oedd e wedi caei ei friffio ac nad oedd e wedi briffio newyddiadurwyr.
Mae’n dweud bod yr honiadau’n “gwbl ddi-sail”.