Mae’r cynlluniau i gynnig fisa am dri mis i 5,000 yn rhagor o yrwyr lorïau yn “annigonol” i ateb y galw am nwyddau hyd at y Nadolig, yn ôl grwpiau busnes.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynllun fisa dros dro er mwyn i 5,000 o yrwyr lorïau a 5,500 o weithwyr dofednod gael gwaith yn y Deyrnas Unedig tan noswyl Nadolig i gadw silffoedd archfarchnadoedd yn llawn dofednod ac i sicrhau cyflenwadau digonol o betrol.

Fe fu ciwiau hir mewn gorsafoedd petrol dros y dyddiau diwethaf, gyda rhai wedi’u gorfodi i gau yn sgil diffyg cyflenwadau i ateb y galw wrth i bobol fynd i banig.

Mae Consortiwm Manwerthu Prydain a Siambr Fasnach Prydain wedi beirniadu’r cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi gan Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan.

Maen nhw’n cael eu hystyried yn annigonol ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer swyddi â chyflogau uchel i weithwyr â sgiliau arbenigol fel rhan o economi ôl-Brexit.

Ond mae Grant Shapps yn mynnu bod y cynlluniau ar gyfer fisas, a fydd ar gael o fis nesaf, yn sicrhau bod paratoadau ar gyfer y Nadolig yn cael parhau yn ôl yr arfer.

‘Nadolig arall llai na llawen’

Yn ôl y Farwnes McGregor-Smith, llywydd y Siambr Fasnach, mae cwsmeriaid a busnesau’n wynebu “Nadolig arall llai na llawen” gan fod y cynllun fisa yn “annigonol”.

Roedd busnesau wedi bod yn rhybuddio bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeg diwrnod ar y mwyaf i achub y Nadolig o ganlyniad i brinder o ryw 90,000 o yrwyr lorïau.

Mae’r Farwnes McGregor-Smith yn dweud na fyddai hyd yn oed yr uchafswm o yrwyr o dan y cynllun “yn ddigon i fynd i’r afael â graddfa’r broblem sydd bellach wedi datblygu yn ein cadwyni cyflenwi”.

“Mae’r cyhoeddiad hwn gyfystyr â thaflu gwniadur o ddŵr ar ben tân,” meddai.

Yn ôl Andrew Opie, cyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Prydain, fydd y 5,000 o yrwyr ychwanegol yn gwneud “fawr ddim” i ddatrys y sefyllfa, ac mae’n galw am ymestyn y cynllun “i bob sector o’r diwydiant manwerthu”.

Mae’n pwysleisio bod angen 15,000 o yrwyr ychwanegol ar archfarchnadoedd yn unig, heb sôn am rannau eraill o’r gadwyn gyflenwi.

Sectorau eraill yn croesawu’r cynlluniau

Yn y cyfamser, mae sectorau eraill wedi croesawu’r cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau ar fewnfudwyr er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Yn ôl Ian Wright, pennaeth y Ffederasiwn Bwyd a Diod, mae’r mesurau’n “bragmataidd” ac mae Logistics UK yn dweud bod y cynlluniau’n dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando ar bryderon cwmnïau sy’n cludo nwyddau.

Mae’r cyhoeddiad yn “hanfodol”, yn ôl Richard Walker, rheolwr gyfarwyddwr archfarchnad Iceland sy’n galw am roi blaenoriaeth i staff siopau a gweithwyr allweddol eraill wrth y pwmp petrol.

“Tan bod hyn yn cael ei leddfu, mae angen i weithwyr hanfodol gan gynnwys gweithwyr manwerthu bwyd gael eu blaenoriaethu wrth y pympiau fel y gallwn ni gadw ysbytai i weithredu a siopau bwyd ar agor, a’r genedl yn ddiogel ac wedi’u bwydo,” meddai.

Cynlluniau eraill

Ar ben y newidiadau i’r cynllun fisa, mae’r Adran Drafnidiaeth yn bwriadu hyfforddi 4,000 yn rhagor o yrwyr lorïau fel rhan o gynllun i fuddsoddi £10m mewn cyllidebau ar gyfer gwersylloedd sgiliau ac addysg oedolion.

Bydd rhai o’r rheiny sydd yn hyfforddi i fod yn yrwyr lorïau yn gymwys ar gyfer arian y wladwriaeth i’w helpu.

Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd yn darparu arholwyr ar gyfer profion gyrru lorïau, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd hynny’n galluogi miloedd yn rhagor o bobol i gael profion gyrru yn y tri mis nesaf.

Yn ogystal â phrinder gyrwyr o ganlyniad i Covid-19, mae niferoedd cynyddol o yrwyr yn heneiddio ac yn ymddeol ac eraill yn gadael y maes oherwydd cyflogau isel ac amodau gwaith gwael.

Bydd bron i filiwn o yrwyr lorïau cymwys nad ydyn nhw’n gweithio yn y maes yn derbyn llythyr dros y dyddiau nesaf yn gofyn iddyn nhw ystyried dychwelyd i’w lorïau.

Bydd y llythyr yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i wella’r amodau gwaith, gan gynnwys cynnig mwy o gyflog ac oriau hyblyg a phenodol.

Mae swyddogion yn mynnu mai’r bwriad yw cynyddu faint o yrwyr sy’n gallu ennill bywoliaeth drwy yrru lorïau yn hytrach na dibynnu ar yrwyr o dramor sy’n fodlon gweithio am gyflogau isel gan na fyddai hynny’n “ateb tymor hir” i’r sefyllfa.