Mae pleidleiswyr yn bwrw eu pleidlais heddiw i ddewis llywodraeth a Changellor newydd yn yr Almaen.

Mae Angela Merkel yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl 16 o flynyddoedd wrth y llyw.

Mae disgwyl ras agos iawn rhwng Armin Laschet, ymgeisydd bloc Union Merkel i’r dde o’r canol, a’r Democratiaid Sosialaidd i’r chwith o’r canol a’u hymgeisydd Olaf Scholz.

Mae polau’n awgrymu mai’r Democratiaid Sosialaidd a Scholz sydd ar y blaen o drwch blewyn.

Dyma’r tro cyntaf i’r Blaid Werdd sefyll mewn etholiad ar gyfer swydd y Canghellor, a’u hymgeisydd yw Annalena Baerbock, a’r gred yw y bydd hi’n drydydd.

Mae Scholz yn gymharol boblogaidd ar hyn o bryd, tra bod Baerbock wedi gwneud sawl camgymeriad yn gynharach yn yr ymgyrch, tra bod Laschet wedi methu ag ysbrydoli cefnogwyr traddodiadol ei blaid.

Mae oddeutu 60.4m allan o 83m o bobol yn gymwys i bleidleisio ar gyfer y Bundestag, a fydd yn ethol pennaeth nesa’r llywodraeth.

Does dim disgwyl i unrhyw blaid ennill mwyafrif, gyda pholau’n awgrymu bod pob plaid o dan 30%, ac mae hynny’n golygu y gallai sawl clymblaid ddod i’r fei, gan arwain at wythnosau os nad misoedd o drafodaethau er mwyn ffurfio llywodraeth.

Bydd Angela Merkel yn aros yn y swydd hyd nes bod modd ffurfio llywodraeth newydd.

Y gorffennol a’r dyfodol

Mae Angela Merkel wedi arwain yr Almaen drwy sawl argyfwng ar hyd y blynyddoedd.

Bydd yn rhaid i’r Canghellor barhau i godi’r wlad allan o’r pandemig, ond mae’r ymdrechion wedi mynd yn dda hyd yn hyn yn sgil nifer o raglenni sydd wedi’u cyflwyno, er eu bod nhw wedi arwain at ddyledion newydd.

Mae Armin Laschet yn mynnu na ddylai trethi gael eu codi er mwyn adfer y wlad wedi’r pandemig.

Mae Olaf Scholz ac Annalena Baerbock yn ffafrio codi trethi i’r bobol gyfoethocaf yn y gymdeithas, yn ogystal â chynyddu’r isafswm cyflog.

Mae Scholz wedi canmol y llywodraeth bresennol am adfer swyddi.

Mae Laschet wedi rhybuddio rhag “arbrofion ideolegol” a allai niweidio’r economi ymhellach.

Mae Merkel wedi canmol Laschet am fod yn rhywun sy’n “codi pontydd”.

Mae polisïau newid hinsawdd, un o’r prif bynciau llosg, yn amrywio cryn dipyn.

Tra bod Laschet a’i blaid yn canolbwyntio ar atebion technolegol sydd wedi’u gyrru gan y farchnad, mae’r Blaid Werdd eisiau codi prisiau carbon a dod â’r defnydd o lo i ben yn gynt na’r disgwyl.

Mae Scholz a’i blaid yn pwysleisio’r angen i warchod swyddi wrth i’r wlad symud tuag at dechnoleg wyrddach.

Dydy polisi tramor ddim wedi bod yn nodwedd amlwg o’r ymgyrch, ond mae’r Blaid Werdd am gymryd camau llym o safbwynt Tsieina a Rwsia.

Clymbleidio?

Mae Armin Laschet ac arweinwyr undebau’n rhybuddio y byddai Olaf Scholz a’r Blaid Werdd yn clymbleidio â Phlaid y Chwith, sy’n gwrthwynebu Nato ac anfon milwyr dramor.

Dydy hi ddim yn glir a fyddai’r ddwy blaid yn gallu cydweithio gan fod eu polisïau a’u hagweddau mor wahanol i’w gilydd.

Mae Olaf Scholz eisoes wedi dweud y byddai’n hoffi ffurfio clymblaid gyda’r Blaid Werdd, ond mae hynny’n cael ei ystyried yn optimistaidd.

Pe na bai modd, fe fyddai’n ffafrio clymblaid gyda’r Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhydd, a dyna yw llwybr gorau Laschet i fuddugoliaeth hefyd.

Mae’r Blaid Werdd yn ffafrio clymblaid gyda’r Democratiaid Sosialaidd, tra bod y Democratiaid Rhydd yn ffafrio clymbleidio â Union.

Un canlyniad posib arall yw clymblaid rhwng Union a’r Democratiaid Sosialaidd o dan arweinyddiaeth Scholz neu Laschet.

Fydd Alternative für Deutschland ddim yn ymddangos mewn unrhyw glymblaid gan nad yw’r un o’r pleidiau eraill yn fodlon cydweithio â nhw.

Mae gan y Bundestag o leiaf 598 o seddi, ond mae’r drefn etholiadol gymhleth yn golygu y gallai fod yn sylweddol fwy na hynny.

Roedd gan y senedd ddiweddaraf 709 o seddi ac fe allai’r un newydd fod yn fwy eto.

Mae disgwyl i ragor na’r 28.6% bleidleisiodd drwy’r post yn yr etholiad diwethaf bleidleisio y tro hwn.