Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r athrawes Sabina Nessa yn ne-ddwyrain Llundain.

Cafodd y dyn ei arestio yn Nwyrain Sussex am oddeutu 3 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Medi 26), meddai’r heddlu.

Mae’n cael ei holi yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Daw’r datblygiad ar ôl i’r heddlu gyhoeddi lluniau camerâu cylch-cyfyng nos Iau (Medi 23), gan apelio am wybodaeth am ddyn roedden nhw’n awyddus i’w holi ac am gar lliw arian.

Roed yr heddlu’n credu ei fod e’n cario rhywbeth roedd yn ceisio’i guddio wrth gerdded ar hyd y stryd yn Kidbrooke, lle’r oedd Sabina Nessa wedi bod yn ystod y nos cyn iddi gael ei lladd.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau mai’r dyn sydd wedi’i arestio sydd yn y lluniau, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw bellach yn chwilio am unrhyw un arall.

Cefndir

Roedd Sabina Nessa wedi bod yn cerdded i’r dafarn ger ei chartref i gwrdd â ffrind pan ddigwyddodd yr ymosodiad arni yn ardal Kidbrooke ar Fedi 17.

Cafwyd hyd i’w chorff y diwrnod canlynol, ac roedd wedi cael ei guddio.

Cafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o’i llofruddio, ond cawson nhw eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Nos Wener, cafodd gwylnos ei chynnal lle bu cannoedd o bobol yn talu teyrnged i’r ddynes oedd yn dysgu yn ysgol gynradd Rushey Green.

Dywedodd ei chwaer, Jebina Yasmin Islam, ei bod hi’n teimlo fel pe bai’r teulu “yn sownd mewn breuddwyd ddrwg ac yn methu cael allan”.