Mae polau piniwn yn awgrymu bod priodasau o’r un rhyw ar fin dod yn gyfreithlon yn y Swistir.

Mae refferendwm cenedlaethol yn cael ei gynnal heddiw (dydd Sul, Medi 26) ac mae asiantaeth gfs.bern yn dweud bod 64% wedi pleidleisio o blaid a dim ond 36% yn erbyn.

Roedd senedd y Swistir a’r Cyngor Ffederal eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i fesurau Priodas i Bawb, ac roedd polau piniwn cyn y refferendwm yn dangos cryn gefnogaeth i’r mesurau hefyd.

Mae partneriaethau sifil yn gyfreithlon yn y wlad ers 2007.

Ond mae cefnogwyr yn dweud y byddai cyfreithlonni priodasau’n rhoi’r un statws i berthnasau o’r un rhyw â phriodasau heterorywiol, gan gynnwys yr hawl i fabwysiadu plant a hwyluso ceisiadau am ddinasyddiaeth.

Byddai hefyd yn rhoi’r hawl i ddwy fenyw fanteisio ar wasanaethau rhoddi sberm sydd wedi cael eu rheoleiddio.

Gwrthwynebiad a honiadau

Mae gwrthwynebwyr yn credu bod cyflwyno hawliau priodasol llawn yn tanseilio teuluoedd ar sail y gred fod priodas yn uno dyn a menyw.

Mae’r ymgyrch wedi wynebu honiadau o dactegau annheg, gyda’r naill ochr yn cyhuddo’r llall o rwygo posteri, llu o gwynion yn cael eu gwneud i linellau cymorth, e-byst cas yn cael eu hanfon a phobol yn wynebu sylwadau sarhaus ar y stryd, yn ogystal ag ymdrechion i dawelu safbwyntiau.

Mae’r Swistir, sydd â phoblogaeth o 8.5m, yn wlad geidwadol ar y cyfan – dim ond ers 1990 mae gan fenywod yr hawl i bleidleisio yno.

Mae rhannau helaeth o Orllewin Ewrop eisoes yn cydnabod priodasau o’r un rhyw, tra nad yw’r rhan fwyaf o wledydd yng nghanol a dwyrain Ewrop yn cydnabod priodasau rhwng dau ddyn neu ddwy fenyw.

Gall cyplau o’r un rhyw orfod aros rhai misoedd eto cyn y bydd modd iddyn nhw briodi pe bai’n cael ei basio’n derfynol, a hynny o ganlyniadu i weithdrefnau gweinyddol a deddfwriaethol cymhleth.