Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi gwrthod ymddiheuro am alw’r Torïaid yn “scum“.

Ond yn ystod derbyniad ar gyfer ymgyrchwyr yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton, mae’r arweinydd Syr Keir Starmer wedi ymbellhau oddi wrth y sylwadau.

Mae un o weinidogion Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi cyhuddo Rayner o “siarad crap“.

Mae Rayner yn dweud na fydd hi’n ymddiheuro oni bai bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn y gorffennol “sy’n homoffobig, yn hiliol ac yn atgas i fenywod”.

Mae Keir Starmer yn dweud y bydd yn trafod y mater ag Angela Rayner, ond mai mater iddi hi fyddai a fydd hi’n ymddiheuro neu beidio.

“Mae gen i ac Angela agweddau gwahanol, ac nid dyna’r iaith y byddwn i’n ei defnyddio,” meddai’r arweinydd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

Wrth gyfiawnhau’r sylwadau, dywedodd Angela Rayner mai bwriad ei sylwadau oedd cyfleu “dicter a rhwystredigaeth” ynghylch Boris Johnson a’i Gabinet.

“Mae unrhyw un sy’n gadael plentyn yn llwgu yn ystod pandemig ac sy’n gallu rhoi biliynau o bunnoedd i’w mêts ar WhatsApp… dw i’n credu bod hynny’n eithaf scummy,” meddai wrth Sky News, gan ddweud yn ddiweddarach ei bod hi’n defnyddio “iaith y stryd” yr oedd hi’n gyfarwydd â hi yn sgil ei magwraeth mewn ardal ddosbarth gweithiol.

Lladd ar Boris Johnson

Yn y gorffennol, mae Boris Johnson wedi cyfeirio at fenywod Moslemaidd fel “blychau post” oherwydd eu bod nhw’n gwisgo’r burka sy’n gorchuddio’u hwynebau.

Mae e hefyd wedi defnyddio ystrydebau negyddol a sarhaus wrth gyfeirio at ddynion hoyw.

“Rwy’n dweud bod y prif weinidog wedi dweud y pethau hynny ac wedi ymddwyn yn y ffordd yna,” meddai Angela Rayner.

“Os yw’r prif weinidog eisiau ymddiheuro ac ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny mae e wedi’u gwneud sy’n homoffobig, yn hiliol, yn atgas i fenywod, byddaf yn ymddiheuro am ei alw fe’n ‘scummy’.”

Yn ystod y digwyddiad neithiwr, dywedodd hi ei bod hi “wedi dal yn ôl ychydig” wrth gyfeirio at “griw o scum homoffobig, hiliol, atgas i fenywod, hollol ffiaidd… gweriniaeth banana, ffiaidd, cas, Etonaidd… darn o scum“.

Cafodd hi fonllef o gymeradwyaeth wrth wneud y sylwadau.

‘Mae angen i ni wneud gwleidyddiaeth yn well’

Mae Oliver Dowden, cadeirydd y Ceidwadwyr, wedi beirniadu sylwadau Angela Rayner.

“Ar adeg pan fo’r wlad yn ceisio cyd-dynnu ac adfer o Covid, y peth diwethaf sydd ei angen arnom yw dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn galw pobol yn ‘scum‘ ac yn bloeddio sylwadau sarhaus,” meddai.

“Mae angen i ni wneud gwleidyddiaeth yn well, nid ei llusgo i’r gwter.

“Gadewch i ni weld a allwn ni gael ymddiheuriad.”

Mae James Cleverley, sy’n weinidog yn y Swyddfa Dramor, yn dweud bod y Blaid Geidwadol wedi cael dwy ddynes yn brif weinidog ac mai hon yw’r “llywodraeth fwyaf amrywiol” a fu, a bod Angela Rayner yn “siarad crap”.

Ond mae John McDonnell, un o wleidyddion amlyca’r Blaid Lafur, wedi amddiffyn y sylwadau er ei fod yn cyfaddef na ddylai hi fod wedi defnyddio’r fath iaith.

“Yn y bôn, mae hi’n mynegi’r dicter mae nifer ohonom yn ei deimlo,” meddai wrth raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky.

“Rydyn ni i gyd wedi bod yno, yn hwyr y nos, yn gwylltio am yr hyn sy’n digwydd.

“Yr hyn rwy’n ei hoffi am Angela Rayner yw ei bod hi’n ddynol.”

Mae Lisa Nandy, un arall o aelodau amlycaf Llafur, yn dweud mai penderfyniad Angela Rayner yw ymddiheuro neu beidio, gan gyfaddef na fyddai hi wedi defnyddio’r fath iaith chwaith.

“Nid dyna fyddai fy newis i o eiriau,” meddai.

“Does gen i fawr o ddiddordeb mewn sarhau’r Torïaid, dw i jyst eisiau cael gwared arnyn nhw.”