Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Mark Drakeford o danseilio cenedligrwydd Prydeinig wrth i’r Blaid Lafur yng Nghymru geisio cefnogaeth gan genedlaetholwyr.
Daw’r cyhuddiad gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn y cyhoeddiad fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynnal trafodaethau gyda Phlaid Cymru er mwyn taro bargen i gefnogi’i gilydd ar faterion cyffredin.
Ymhlith y materion lle maen nhw’n debygol o gytuno mae cynyddu nifer Aelodau’r Senedd.
Daw’r fargen ddegawd ar ôl i’r llywodraeth glymblaid rhwng y ddwy blaid ddod i ben, a phum mlynedd ers i Carwyn Jones a Leanne Wood ddod i gytundeb cyllidebol.
O blith y 22 Cyllideb sydd wedi’u pasio yn y Senedd, dim ond chwech ohonyn nhw mae Plaid Cymru wedi’u gwrthwynebu.
Ac mae Andrew RT Davies yn cyhuddo’r prif weinidog Mark Drakeford o “geisio o ddifrif i danseilio cenedligrwydd Prydeinig a chychwyn rhyfel rhethreg ymfflamychol a di-sail at ddibenion mantais etholiadol” ers iddo gael ei ethol yn brif weinidog dair blynedd yn ôl.
Yn y cyfnod hwnnw, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ei gyhuddo o:
- gymharu’r Deyrnas Unedig â dim byd llai na “pholisi yswiriant”
- dweud nad yw ei gefnogaeth i fodolaeth y Deyrnas Unedig “heb amod”.
- tanseilio gwneuthuriad y Deyrnas Unedig yn gyson trwy ei honiadau yn y ddogfen Diwygio ein Hundeb, megis na ddylai sofraniaeth aros yn Senedd Prydain
- siarad yn gyson o blaid rhannu’r wlad er mai Cymru yw rhan fwyaf “unoliaethol” y Deyrnas Unedig
Yn ogystal â lladd ar Lafur Cymru, mae Andrew RT Davies hefyd yn cyhuddo’r Blaid Lafur Brydeinig o danseilio Syr Keir Starmer drwy fod yn gysylltiedig â’r Blaid Lafur yng Ngogledd Iwerddon sydd am weld Iwerddon unedig.
Ac mae’n cyfeirio hefyd at y ffaith y bydd y prif weinidog yn ymddangos mewn digwyddiad yn Brighton sy’n cael ei gefnogi gan gefnogwyr Jeremy Corbyn, y cyn-arweinydd sydd ymhlith y siaradwyr, ond sy’n teimlo eu bod nhw “yn cael eu hynysu’n gynyddol” gan arweinyddiaeth Starmer.
Mae grwpiau sydd yn erbyn gwrth-Semitiaeth hefyd wedi beirniadu’r prif weinidog yn sgil ei ymddangosiad yn y digwyddiad.
Diffyg hygrededd
“Mae hygrededd Llafur fel plaid sydd o blaid Prydain yn deilchion,” meddai Andrew RT Davies.
“Nid i raddau bach, mae Mark Drakeford wedi helpu hyn drwy geisio o ddifrif i danseilio cenedligrwydd Prydeinig a chychwyn rhyfel rhethreg ymfflamychol a di-sail at ddibenion mantais etholiadol, gan roi gwleidyddiaeth bleidiol uwchlaw buddiannau’r genedl.
“Gwelwn hynny yn ei gynllun ar gyfer cytundeb economaidd drychinebus gyda Phlaid Cymru, ei agwedd ymosodol tuag at Lywodraeth Prydain, a thaflu ei gydweithwyr Albanaidd o dan y bws drwy neidio i’r gwely gyda’r sawl sydd â rhannu’r wlad i fyny yn brif nod.
“O’r blaen, roedd gan Lafur hanes balch o fod o blaid Cymru ac o blaid Prydain.
“Mae hi bellach yn cefnu ar yr ail ohonyn nhw er mwyn ennill ffafrau gan genedlaetholwyr oherwydd mae aros mewn grym wedi dod yn bwysicach iddyn nhw na chreu Cymru gref mewn Deyrnas Unedig gref.”