Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn galw ar Lywodraeth Geidwadol Prydain i “roi’r ideoleg o gau mewnfudo i lawr o’r neilltu” er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng y gadwyn gyflenwi.

Mae prinder gyrwyr lorïau HGV yn bygwth sawl diwydiant, gyda phrinder petrol mewn rhai llefydd a phrinder lorïau i gludo nwyddau hanfodol.

Byddai ychwanegu gyrwyr HGV at y Rhestr Prinder Galwedigaethau yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau logi gyrwyr o dramor, yn ôl Hywel Williams.

Daeth cyhoeddiad gan gwmnïau BP ac Esso ddydd Iau (Medi 23) fod nifer o orsafoedd petrol wedi cau oherwydd prinder tanwydd, ac mae ciwiau hir wedi bod ar hyd a lled y wlad wrth i bobol giwio am betrol rhag ofn y bydd prinder maes o law.

Ddydd Mawrth (Medi 21), roedd Ian Wright, prif weithredwr y Ffedarasiwn Bwyd a Diod, yn rhybuddio y byddai prinder dofednod, porc a chynhyrchion popty ar silffoedd archfarchnadoedd ymhen rhai dyddiau, ac mae cwmni cyflenwadau meddygol yng Nghaerffili hefyd wedi bod yn rhybuddio am yr effaith ar ofal i gleifion.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwadu mai Brexit sy’n gyfrifol am y sefyllfa, gan ddadlau bod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu i ddod o hyd i rai atebion i’r sefyllfa bresennol.

‘Argyfwng yn gwaethygu’

“Prinder bwyd a phrisiau uwch. Oedi i gyflenwadau meddygol yn rhoi pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gorsafoedd petrol yn cau a hynny’n arwain at brynu mewn panig ledled Prydain. Mae argyfwng y gadwyn gyflenwi yn gwaethygu – ac eto mae’r Torïaid yn San Steffan yn dal i gladdu eu pennau yn y tywod,” meddai Hywel Williams.

“Methiant y farchnad yw hyn, wedi ei achosi gan San Steffan.

“Mae cyfuniad o greu polisi mewnfudo caeth wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, diffyg enbyd o flaengynllunio gan y Llywodraeth ac amodau gweithio erchyll i yrrwyr wedi creu storm berffaith a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei hun.

“I ddefnyddio iaith y Torïaid eu hunain – mae’n bryd iddynt yn awr gymryd rheolaeth o’r argyfwng hwn trwy ddefnyddio’r hyblygrwydd sydd ar gael trwy fecanweithiau’r Rhestr Prinder Galwedigaethau.

“Os ydynt eisiau osgoi tagu gweithwyr mewn argyfwng fydd yn gwaethygu y gaeaf hwn, rhaid i Lywodraeth y DG roi eu hideoleg o gau mewnfudo i lawr o’r neilltu a’i gwneud yn haws i gwmnïau logi gyrrwyr HGV o dramor.”

Ystyried rhoi fisas dros dro i fynd i’r afael â phrinder gyrwyr lorïau

Adroddiadau bod cyfyngiadau ar fewnfudwyr wedi cael eu llacio er mwyn ceisio datrys y sefyllfa