Mae lle i gredu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried mesurau dros dro i fynd i’r afael â phrinder gyrwyr lorïau sy’n cael effaith ar sawl diwydiant.
Yn ôl adroddiadau yn y Financial Times a’r Telegraph, gallai Boris Johnson, prif weinidog Prydain, lacio cyfyngiadau ar fewnfudwyr er mwyn galluogi mwy o yrwyr o dramor i ddod i weithio.
Maen nhw’n dweud y gallai hyd at 5,000 o fisas dros dro gael eu rhoi i yrwyr lorïau HGV a 5,000 arall i weithwyr prosesu bwyd, yn enwedig yn y diwydiant dofednod.
Mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wedi addo “symud nef a daear” i ddatrys y sefyllfa ac fe wnaeth gweinidogion gyfarfod i drafod y cynlluniau ddoe (dydd Gwener, Medi 24).
Gallai’r cynlluniau gael eu cymeradwyo’n derfynol dros y penwythnos.
‘Rhy hwyr i lawer’
Ond yn ôl Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r newidiadau wedi dod yn rhy hwyr i lawer.
“Mae traheustra Boris Johnson wedi costio swyddi,” meddai.
“Roedd e’n gwybod fod yna ddatrysiad i’r broblem hon ond fe wnaeth e fwrw ymlaen beth bynnag.
“Mae arno fe ymddiheuriad i bobol Prydain.”
Daw ei sylwadau wrth i’r CBI alw ar weinidogion i sefydlu gweithgor ar yr un lefel â phwyllgor brys Cobra i ymateb i’r sefyllfa bresennol, lle mae gorsafoedd petrol ynghau a silffoedd archfarchnadoedd yn wag.
Mae rhybudd eisoes y gallai’r prinder o ryw 90,000 o yrwyr lorïau gael effaith ar y Nadolig ac mae BP yn dweud bod rhyw 20 o’u 1,200 o orsafoedd petrol ynghau oherwydd prinder tanwydd, ac mae rhwng 50 a 100 o orsafoedd heb o leiaf un math o betrol.
Yn ôl ExxonMobil sy’n berchen ar Esso, mae nifer fach o orsafoedd petrol Tesco hefyd ynghau.
Mae’r EG Group, sydd â rhyw 400 o orsafoedd petrol yn y Deyrnas Unedig, yn cyfyngu cwsmeriaid i uchafswm o £30 o danwydd.
Daw hyn wrth i arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod un o bob chwech o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu prynu nwyddau bwyd hanfodol yn ystod yr wythnosau diwethaf oherwydd prinder.
Ond mae Downing Street yn mynnu nad oes unrhyw brinder o ran nwyddau, er bod prinder gyrwyr.