Mae Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, wedi cael gadael y carchar yn Sardignia cyn bod gwrandawiad estraddodi yn cael ei gynnal ar Hydref 4.

Mae Llywodraeth Sbaen eisiau ei gyhuddo o annog terfysg o ganlyniad i’w ran yn ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.

Cafodd ei arestio yr wythnos hon ar ôl cyrraedd maes awyr Alghero, wedi iddo gael gwahoddiad i ddigwyddiad diwylliannol sy’n dathlu diwylliant Catalwnia, a chyfarfod o gefnogwyr annibyniaeth yn Sardignia.

Er bod rheswm da i’w arestio, dywedodd y barnwr y câi symud yn rhydd ar ôl iddi ddarllen dogfennau’n ymwneud â’r achos.

Bydd tri barnwr yn gyfrifol am y gwrandawiad ar Hydref 4, lle byddan nhw’n penderfynu a oes sail i’r cais i’w estraddodi i Sbaen i wynebu cyhuddiadau ac mae disgwyl penderfyniad o fewn wythnosau.

Cefndir

Er bod Carles Puigdemont yn Aelod o Senedd Ewrop, mae e wedi colli ei imiwnedd o ganlyniad i’w ran yn yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gatalwnia.

Fe fu cefnogwyr yn mynnu ei fod e’n cael gadael y carchar wrth iddyn nhw ymgynnull ar strydoedd Catalwnia, ond roedd pleidiau asgell dde yn mynnu y dylai wynebu achos llys.

Mae Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, wedi croesawu’r camau a gafodd eu cymryd i’w arestio, gan ddweud mai “cynnal sgwrs” yw’r ffordd orau o ddatrys anfodlonrwydd cefnogwyr annibyniaeth Catalwnia a sicrhau cytgord rhyngddyn nhw a thrigolion eraill Sbaen.

Mae ychydig yn llai na hanner poblogaeth Catalwnia eisiau annibyniaeth erbyn hyn, yn ôl sawl pôl piniwn, ond mae Sbaenwyr ar y cyfan yn gwrthwynebu.

Mae cyfreithwyr yn dadlau nad oedd y warant i arestio Puigdemont, a gafodd ei chyflwyno yn 2019, yn dal yn weithredol.

Ond anfonodd Goruchaf Lys Sbaen lythyr at yr Undeb Ewropeaidd yn nodi bod y warant yn dal yn gyfredol.

Gweinyddiaeth Gyfiawnder yr Eidal fydd yn penderfynu beth fydd y cam nesaf.

Daw hyn bedair blynedd ar ôl i Puigdemont ffoi i Wlad Belg, ac fe wnaeth y wlad honno wrthod ei estraddodi.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei arestio yn yr Almaen ond fe wnaeth y wlad honno wrthod ei estraddodi hefyd.

Cafodd naw o arweinwyr annibyniaeth Catalwnia eu carcharu am eu rhan yn ymgyrch annibyniaeth 2017 ar ôl i Sbaen wrthod cydnabod canlyniad refferendwm a gafodd ei gynnal.

Cafodd y naw bardwn fis Gorffennaf eleni, ond doedd Puigdemont ddim yn un ohonyn nhw.

Carles Puigdemont yn Snedd Catalwnia

Cyn-Arweinydd Catalwnia wedi cael ei arestio yn yr Eidal

Arweiniodd Carles Puigdemont ymgais aflwyddiannus i sefydlu Catalwnia fel gwlad annibynnol bedair blynedd yn ôl