Mae Heddlu’r De yn galw ar yrwyr i ddilyn canllawiau’r llywodraeth wrth iddyn nhw heidio i orsafoedd petrol.

Daw’r pryder o ganlyniad i brinder gyrwyr lorïau, sy’n arwain pobol i gredu na fydd modd iddyn nhw brynu petrol o orsafoedd petrol ar hyd a lled y wlad.

Mae gorsafoedd petrol ar hyd a lled y wlad yn adrodd am brinder tanwydd, ond mae Downing Street yn wfftio’r awgrym fod problem ehangach.

“Rydym yn ymwybodol o yrwyr yn ciwio mewn gorsafoedd petrol ledled de Cymru,” meddai’r heddlu ar Twitter.

“Mae cadw priffyrdd yn glir yn hanfodol ar gyfer y gwasanaethau brys a swyddogaethau gwasanaethau cyhoeddus eraill ac mae tarfu arnyn nhw’n peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

“Dilynwch ganllawiau’r llywodraeth ynghylch prynu tanwydd, os gwelwch yn dda.”

‘Prynu mewn panig, nid y gadwyn gyflenwi, sy’n achosi prinder’

Daw’r rhybudd gan yr heddlu wrth i bennaeth yr AA ddweud mai prynu mewn panig, ac nid y gadwyn gyflenwi, sy’n achosi prinder tanwydd.

Yn ôl Edmund King, dylai’r broblem gael ei datrys o fewn rhai diwrnodau pe bai gyrwyr yn parhau i brynu yn ôl yr angen ac nid mewn panig.

“Problem leol” oedd prinder gyrwyr ddechrau’r wythnos, meddai wrth siarad â BBC Breakfast.

Ystyried rhoi fisas dros dro i fynd i’r afael â phrinder gyrwyr lorïau

Adroddiadau bod cyfyngiadau ar fewnfudwyr wedi cael eu llacio er mwyn ceisio datrys y sefyllfa