Mae Heddlu’r De yn dweud bod dynes 28 oed wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yng Nghwm Rhondda ddydd Mawrth (Medi 21).

Cafodd dyn 26 oed ei arestio yn dilyn y tân, a chafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty am oddeutu 4.45yp.

Cafodd tri o blant driniaeth am effeithiau’r mwg.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd eu bod nhw’n “cadw meddwl agored” am y digwyddiad wrth iddyn nhw apelio am wybodaeth.