Mae ymgyrchwyr ‘Hawl i Fyw Adra’ yn gorymdeithio heddiw (dydd Sadwrn, Medi 25) i alw am adolygiad brys i’r Cynllun Datblygu Lleol.
Dywed grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, sy’n trefnu’r orymdaith, mai “ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni yn wleidyddol” ers y daith gerdded gyntaf, a bod y brotest ddiweddaraf er mwyn pwysleisio’r angen i weithredu.
Maen nhw’n galw eto ar Arweinydd y Cyngor Sir a Phwyllgor ar y Cyd Gwynedd a Môn i sicrhau adolygiad ar frys i’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ei atgyfnerthu i warchod cymunedau lleol a’r Gymraeg.
Yn ogystal, maen nhw eisiau i Lywodraeth Cymru gyflwyno toriad ar brynu ail dai a sicrhau bod angen hawl cynllunio i drosi tŷ preswyl yn dŷ haf.
“Mae ein cymunedau yn parhau i fod yn ddiamddiffyn gyda chwlwm bro pobl leol yn cael eu rhwygo am na allent fforddio tŷ yn eu cymunedau,” meddai.
“Mae cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw yn crebachu ac maent bellach yn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig.
“Siom yw nad yw ein Llywodraeth nac Arweinyddiaeth ein Cyngor Sir yn gweithredu ar frys ac yn eofn i ddatrys yr argyfwng.”
Byddan nhw’n teithio 18 milltir ar droed o Ben Llŷn i Gaernarfon ddydd Sadwrn (25 Medi) am yr ail dro, ar ôl gwneud hynny am y tro cyntaf flwyddyn yn ôl.
Dywed grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, sy’n trefnu’r orymdaith, mai “ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni yn wleidyddol” ers y daith gerdded gyntaf, a bod y brotest ddiweddaraf er mwyn pwysleisio’r angen i weithredu.
Maen nhw’n galw eto ar Arweinydd y Cyngor Sir a Phwyllgor ar y Cyd Gwynedd a Môn i sicrhau adolygiad ar frys i’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ei atgyfnerthu i warchod cymunedau lleol a’r Gymraeg.
Yn ogystal, maen nhw eisiau i Lywodraeth Cymru gyflwyno toriad ar brynu ail dai a sicrhau bod angen hawl cynllunio i drosi tŷ preswyl yn dŷ haf.
Mi rydan ni’n cerdded heddiw i roi pwysau pellach ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd i weithredu ar frys i ddatrys yr argyfwng tai pic.twitter.com/NNHHIaU0JX
— Hawl i Fyw Adra (@IHawl) September 25, 2021
‘Amlygu problemau’
“Rydan ni’n cerdded i Gaernarfon heddiw ’ma er mwyn amlygu’r problemau mae pobol ifanc yn eu cael yn trio cael eu troed ar yr ysgol i brynu cartrefi iddyn nhw eu hunain yn yr ardaloedd gwledig ac arfordirol sydd gennon ni yma yng Ngwynedd,” meddai’r Cynghorydd Gruffydd Williams mewn fideo ar Facebook.
“Mae’r arweinydd ei hun wedi dweud bod yr honiadau rydan ni wedi’u rhoi yn eu herbyn nhw yn hollol ddi-sail.
“Gawn ni jyst eich atgoffa chi, yn 2017, fe wnaeth Dyfrig [ap Siencyn] a Dafydd Meurig arwain ar y cynllun unedol ar y cyd yn y cyfarfod gan ddweud ei bod hi’n ddogfen fyw ac y basa hi’n bosib newid polisïau os nad ydyn nhw’n gweithio o fewn pedair blynedd.
“Rydan ni’n ffeindio allan rŵan ei bod hi’n mynd i gymryd tair blynedd a hanner ychwanegol, felly rydan ni’n mynd i fod yn y tywyllwch yma am dair blynedd a hanner ychwanegol oherwydd ein bod ni fel aelodau wedi cael ein camarwain gan Dyfrig a Dafydd Meurig a rhai o swyddogion yn y cyfarfod hynny yn 2017.”