Mae cynlluniau i droi Clwb Canol Dre yng Nghaernarfon yn llety gwyliau wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd.

Fe gafodd yr adeilad ar Stryd Fawr y dref ei roi ar y farchnad llynedd.

Roedd yn arfer bod yn fan cymdeithasol i Glwb Ceidwadwyr y dref, cyn dod yn ganolbwynt i gigiau a digwyddiadau eraill.

Fe wnaeth llawer o fandiau enwocaf y sin roc Gymraeg, fel Y Bandana, Candelas a Sŵnami, chwarae ar lwyfan y clwb, gyda nifer o fandiau lleol yn cael cyfle i ddatblygu eu crefft yno hefyd.

Mae’r cynlluniau diweddaraf am weld yr adeilad yn cael ei droi yn llety gwyliau, sy’n cynnwys un ystafell gyda dau wely sengl a dwy ystafell arall gyda gwelyau dwbl.

Cymeradwyo

Fe gafodd y cais gan Cosgrove Renovations Cyf ei gymeradwyo gan swyddogion heb orfod mynd o flaen y pwyllgor cynllunio.

Mae gan yr adeilad statws rhestredig Gradd II, ond roedd y swyddogion yn teimlo nad oedd y datblygiad yn effeithio ar elfennau hanesyddol.

“Gan nad oes unrhyw nodweddion gwreiddiol yn parhau i fod yn yr adeilad, does dim adeiladwaith hanesyddol yn cael ei golli trwy ei drawsnewid,” medden nhw yn eu hadroddiad.

“Byddai’r gwaith yn gwneud gwelliannau trwy gael gwared ar y ddihangfa dân modern a hefyd darparu defnydd tymor hir i’r adeilad.

“Yn yr achos hwn, rydyn ni’n teimlo byddai’r gwaith yn cynnig gwelliant sylweddol ac y byddai’n cwrdd â gofynion y polisïau sy’n cael eu nodi.”

Dydy’r datblygiad hwn ddim yn rhan o gynllun arall i drawsnewid hen adeilad cyfagos Clwb y Ceidwadwyr yn unedau manwerthu a chwe llety.