Mae tîm criced Morgannwg yn herio Surrey ar gae’r Oval yng ngêm ola’r tymor heddiw, gan ddod â’u hymgyrch siomedig yn y Bencampwriaeth i ben.

Maen nhw wedi colli eu tair gêm ddiwethaf yn drwm, ac fe fyddan nhw’n awyddus i osgoi colli pedwaredd gêm o’r bron.

Mae tri chwaraewr yn dod i mewn i’r garfan – y wicedwr Tom Cullen a’r chwaraewyr amryddawn Joe Cooke a Callum Taylor.

Yn ôl y capten Chris Cooke, bydd hon “yn gêm fawr iawn” i’r sir.

“Rydyn ni wedi cael llawer o gemau da y tymor hwn, ond rydyn ni wedi cael tair wythnos syfrdanol, felly mae hi ond yn fater o ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yn dda a cheisio mynd â chanlyniad positif i mewn i’r gaeaf,” meddai.

“Rydyn ni wedi cael ambell ddiwrnod i gael sesiynau da a chaled yn y rhwydi, a byddwn ni’n rhoi cynnig go dda ar y pedwar diwrnod hyn.”

Y gwrthwynebwyr

Bydd Ollie Pope yn arwain Surrey am y tro cyntaf ar ôl dychwelyd o garfan Lloegr.

Ond mae Rory Burns yn gorffwys yn unol ag amodau ei gytundeb canolog gyda Lloegr.

Gallai’r wicedwr Ben Foakes chwarae am y tro cyntaf ers iddo anafu llinyn y gâr ym mis Mai.

Ond bydd Rikki Clarke yn chwarae am y tro olaf cyn ymddeol, ar ôl chwarae mewn 679 o gemau – 273 dros Surrey a 22 dros Lloegr – ers i’w yrfa ddechrau yn 2001.

Mae Nicholas Kimber a Jamie Overton yn parhau i wella o anafiadau, tra bod Sam Curran, Tom Curran a Jason Roy yn chwarae yn yr IPL yn India.

Gemau’r gorffennol

Hon fydd gêm Bencampwriaeth gyntaf Morgannwg ar yr Oval ers dechrau tymor 2014 pan enillon nhw o ddeg wiced ar ôl gwydroi blaenoriaeth swmpus Surrey o 121 o rediadau ar ddechrau’r diwrnod olaf.

Cwympodd wyth wiced am 31 rhediad mewn 15.2 o belawdau wrth i Graham Wagg a Michael Hogan achosi anawsterau i fatwyr Surrey.

Roedd angen 153 oddi ar o leiaf 78 o belawdau ar Forgannwg, ac fe gyrhaeddodd Gareth Rees a Will Bragg y nod yn ddigon cyfforddus gyda hanner canred yr un.

Gêm gyfartal gawson nhw ar yr Oval yn 2011 er i Rees daro 126, a hynny ar ôl i Forgannwg sgorio 702 am wyth wrth gau eu batiad ar eu hymweliad blaenorol yn 2009 – dyma’r ail gyfanswm mwyaf yn hanes y sir. Roedd canred yr un i Rees a Mark Cosgrove oedd wedi adeiladu partneriaeth swmpus o 315, cyn i Jim Allenby a Mark Wallace daro canred yr un hefyd mewn partneriaeth chweched wiced o 240.

Dydy Surrey ddim wedi curo Morgannwg ar yr Oval ers 2006, a hynny o 218 o rediadau.

Ar y cyfan, mae Surrey wedi ennill 20 allan o 55 o gemau yn erbyn Morgannwg ar yr Oval, tra bod Morgannwg ond wedi ennill wyth, a 27 yn gorffen yn gyfartal.

Hon fydd gêm olaf Rikki Clarke, batiwr Surrey, cyn iddo ymddeol.

Cerrig milltir

Er gwaetha’r ymgyrch siomedig, mae sawl chwaraewr yn anelu am garreg filltir bersonol cyn diwedd y tymor.

Mae Kiran Carlson o Gaerdydd wedi sgorio 859 o rediadau dosbarth cyntaf hyd yn hyn eleni, y seithfed prif sgoriwr yn y Bencampwriaeth gyfan.

Pe bai’n sgorio 141 arall, fe fyddai’r batiwr cyntaf o Forgannwg ers Marnus Labuschagne yn 2019 i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau mewn tymor.

Does neb o Gymru wedi cyrraedd y nod ers Aneurin Donald a Will Bragg yn 2016.

Carfan Surrey: O Pope (capten), H Amla, G Atkinson, J Clark, R Clarke, B Foakes, W Jacks, D Moriarty, R Patel, J Smith, C Steel, J Taylor, R Topley, A Virdi

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), E Byrom, K Carlson, J Cooke, T Cullen, D Douthwaite, M Hogan, D Lloyd, J McIlroy, H Rutherford, A Salter, R Smith, C Taylor

Sgorfwrdd