Mae myfyrwraig o Goleg Menai ym Mangor yn paratoi i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Codi Pwysau Ieuenctid y Byd.

Bydd Nikole Roberts yn teithio i’r gystadleuaeth yn Saudi Arabia fis Hydref, a bydd hi’n cystadlu yn y categori 49kg.

Mae’r ferch 16 oed eisoes wedi dod yn Bencampwr Cymru a Phencampwr Prydain yn ei grŵp oedran.

Dydy hi ond yn codi pwysau ers tair blynedd, ond erbyn hyn mae hi’n hyfforddi tair gwaith yr wythnos yng nghampfa Bangor Barbell.

Mae hi hefyd yn astudio cwrs Chwaraeon (Antur Awyr Agored) Lefel 3 yng Ngholeg Menai, Bangor ar hyn o bryd.

“Edrych ymlaen”

“Rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael cystadlu mewn digwyddiad mor fawr,” meddai Nikole Roberts.

“Dw i wedi bod yn hyfforddi mor galed, dw i wir yn edrych ymlaen.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i diwtoriaid Coleg Menai, maen nhw mor barod i’ch cefnogi a’ch annog.”

Mae Andy Collins yn un o’r rhai sy’n tiwtora Nikole yn y coleg.

“Mae hi wedi bod yn wych i ni gael cyfle i gefnogi Nikole wrth iddi ddatblygu ei sgiliau a chryfhau,” meddai.

“Rydym yn ei chefnogi cant y cant ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth fydd hi’n ei gyflawni nesaf ym Mhencampwriaethau’r Byd.”