Mae Steve Cooper, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cael ei benodi’n rheolwr tîm pêl-droed Nottingham Forest.

Daw’r penodiad lai nag wythnos ar ôl i Chris Hughton gael ei ddiswyddo, a dyma swydd gynta’r Cymro o Bontypridd ers iddo fe adael yr Elyrch ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Yn ei ddau dymor gyda’r Elyrch, fe wnaethon nhw gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, a chyrraedd y rownd derfynol y tymor diwethaf cyn colli yn erbyn Brentford.

Mae’r penodiad wedi ennyn ymateb cymysg gan gefnogwyr yr Elyrch, sydd wedi bod yn feirniadol o’i ddull o chwarae er gwaetha’r llwyddiant gafodd y clwb a’r garfan ifanc o dan ei reolaeth rhwng 2019 a 2021.

Cyn cael ei benodi yn Stadiwm Liberty, treuliodd e gyfnodau gyda Wrecsam a Lerpwl cyn mynd yn rheolwr ar dimau dan 16 a dan 17 Lloegr.

Dewis cyntaf

Mae Dane Murphy, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Nottingham Forest, wedi datgelu mai Steve Cooper oedd dewis cynta’r clwb ar gyfer y swydd.

“Rydym wrth ein boddau o fod wedi sicrhau ei wasanaeth,” meddai.

“Mae ei record o ddatblygu doniau ifainc yn rhagorol.

“Mae Steve yn gwybod beth sydd ei angen er mwyn bod yn llwyddiannus yn y Bencampwriaeth ac mae ganddo fe record o brofi ei hun gydag Abertawe.

“Rydyn ni wedi gostwng oedran ein carfan dros yr haf a Steve yw’r hyfforddwr delfrydol i asio tîm i ddechrau ein symud ni i fyny’r tabl.”

Mae Steve Cooper wedi dechrau hyfforddi’r garfan ac fe fydd e wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn Millwall ddydd Sadwrn (Medi 25).

Bydd e’n dychwelyd i Stadiwm Liberty gyda’i dîm newydd i herio Abertawe ar Ragfyr 11, ac mae disgwyl i Alan Tate fod yn aelod o’i dîm hyfforddi erbyn hynny ar ôl gadael yr Elyrch.

Mae Nottingham Forest ar waelod y tabl ar hyn o bryd.