Mae canolwr Cymru Jonathan Davies wedi olynu Ken Owens yn gapten y Scarlets ar gyfer tymor 2021-22.
Fe wnaeth Jonathan Davies, 33, arwain Cymru yn ystod yr haf mewn tair gêm brawf yn erbyn Yr Ariannin a Chanada ar ôl colli allan ar le yng ngharfan y Llewod.
Fe wnaeth Jonathan Davies ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys y Scarlets yn nhymor 2006-07 ac mae wedi chwarae 170 o gemau i’r rhanbarth mewn dau gyfnod gwahanol.
Mae Ken Owens, 34, wedi bod yn gapten ar y Scarlets ers 2014.
Mae bachwr Cymru wedi cytuno i ymestyn ei gytundeb gyda’r Scarlets fydd yn para tan ar ôl Cwpan y Byd 2023.
‘Anrhydedd’
“Mae’n anrhydedd enfawr cael bod yn gapten ar y Scarlets, does ond rhaid i chi edrych ar fwrdd y capten i weld cymaint o chwaraewyr gwych sydd wedi arwain y clwb,” meddai Jonathan Davies.
“Rwy’n ffodus yn y ffaith y bydd yno arweinwyr eraill o’m cwmpas – Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn ogystal â chwaraewyr profiadol Cymru sydd wedi profi llwyddiant ar lefel ddomestig a rhyngwladol.
“Mae ennill teitl PRO12 gyda’r Scarlets bedair blynedd yn ôl yn parhau i fod yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac mae uchelgais a chwant gwirioneddol ymhlith y chwaraewyr a’r grŵp hyfforddi i gyrraedd y lefelau hynny eto.”