Mae tîm criced Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddiwedd diwrnod olaf gêm ola’r tymor, wrth iddyn nhw gyrraedd 379 am bedair yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Surrey ar yr Oval.

Tarodd David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o Wrecsam, ei ganred cynta’r tymor hwn (121), y tro cyntaf iddo fe daro canred wrth agor y batio i’r sir. Dyma’i bumed canred dosbarth cyntaf i’r sir.

Roedd sawl partneriaeth adeiladol yn ystod y dydd, gyda Lloyd a Hamish Rutherford yn sgorio 86 am y wiced gyntaf i osod y seiliau.

Daeth y bartneriaeth fawr, o 125, gyda Joe Cooke am yr ail wiced, wrth i Cooke sgorio 68, ei hanner canred cyntaf i’r sir mewn gêm dosbarth cyntaf.

Ychwanegodd Lloyd ac Eddie Byrom 76 am y drydedd wiced cyn i Lloyd golli ei wiced gyda Morgannwg yn 289 am bedair.

Mae Kiran Carlson (45 heb fod allan) a’r capten Chris Cooke (44 heb fod allan) eisoes wedi ychwanegu 90 am y pumed wiced.

Manylion y diwrnod cyntaf

Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio ar ôl gwneud tri newid i’r tîm, gyda’r batiwr Nick Selman, y chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith a’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten allan o’r garfan, a Joe Cooke, Callum Taylor a Jamie McIlroy yn dod i mewn yn eu lle.

Ar lain werdd yr Oval, fe wnaeth Surrey droi at eu troellwyr yn gynnar yn y diwrnod, ond fe gafodd Lloyd ei ollwng gan Rikki Clarke oddi ar fowlio Amar Virdi cyn mynd yn ei flaen i gosbi’r Saeson.

Ond buan y gwnaeth y troellwr daro coes Hamish Rutherford o flaen y wiced i dorri’r bartneriaeth agoriadol gadarn ar 88.

Daeth hanner canred Lloyd wedyn oddi ar 72 o belenni, wrth iddo gyrraedd y garreg filltir gydag ergyd i’r ffin cyn cinio yn golygu bod Morgannwg yn 125 am un erbyn yr egwyl.

Aeth Lloyd a Joe Cooke yn eu blaenau i adeiladu partneriaeth ail wiced gref wrth i Forgannwg fynd heibio’r 150, a Cooke yn cyrraedd ei hanner canred cyntaf i’r sir.

Daeth batiad Cooke i ben pan wnaeth e gam-ergydio i’r ochr agored at Ollie Pope oddi ar fowlio’r troellwr Dan Moriarty ac roedd Morgannwg yn 238 am ddwy, gyda Lloyd dri rhediad yn brin o’i ganred.

Daeth y garreg filltir yn ystod ail belawd sesiwn ola’r dydd, ei ganred cyntaf ers iddo fe gyflawni sgôr gorau ei yrfa (119) yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste yn 2018.

Ond collodd Morgannwg eu trydedd wiced pan gamodd Eddie Byrom i lawr y llain a chael ei stympio gan Ben Foakes oddi ar fowlio Moriarty.

Yn fuan wedyn, roedd Lloyd yn ôl yn y pafiliwn hefyd wrth i 287 am dair droi’n 289 am bedair, gyda Will Jacks yn dal y batiwr yn y cyfar oddi ar fowlio Virdi.

Doedd y bêl newydd ddim yn gallu atal Morgannwg rhag cipio rhagor o bwyntiau batio, ac maen nhw wedi gosod seiliau cadarn i adeiladu cyfanswm swmpus ar yr ail ddiwrnod.

 

Morgannwg yn teithio i’r Oval ar gyfer gêm ola’r tymor criced

Mae eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth wedi bod yn ddigon siomedig eleni