Curodd Tîm Merched Cymru Estonia 1-0 yn Parnu neithiwr (nos Fawrth, 21 Medi), gyda Natasha Harding yn sgorio’r gôl fuddugol.

Mae merched Gemma Grainger wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, gan drechu Kazakhstan 6-0 nos Wener (17 Medi).

Sgoriodd Natasha Harding wedi pum munud, ar ôl i Jess Fishlock basio’r bel ati.

Daeth Rhiannon Roberts, Rachel Rowe a Natasha Harding yn agos i ychwanegu ail gôl, cyn i Kayleigh Green rwydo – ond roedd hi’n camsefyll.

Yn dilyn hynny, ergydiodd Kayleigh Green heibio’r postyn wrth i Gymru reoli’r gêm, a gwnaeth gôl-geidwad Estonia, Karina Kork, arbediad campus yn dilyn ergyd gan Rachel Rowe yn yr 80fed munud.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi cymryd chwe phwynt o’u dwy gêm agoriadol ac yn ail yn y grŵp.