Mae’r MCC, y corff sy’n gyfrifol am ddeddfau criced, wedi cyhoeddi na fydd y termau ‘batsman’ a ‘batsmen’ bellach yn cael eu defnyddio, wrth iddyn nhw geisio defnyddio cenedl enwau mwy niwtral.

Mae pwyllgor yr MCC wedi cymeradwyo’r newidiadau yn dilyn trafodaeth gan yr is-bwyllgor sy’n gyfrifol am y Deddfau.

Yn ôl yr MCC, “mae’r defnydd o derminoleg niwtral yn helpu i atgyfnerthu statws criced fel gêm gynhwysol i bawb”.

Maen nhw’n dweud bod y newid yn “esblygiad naturiol o’r gwaith a wnaed eisoes yn y maes hwn” ac yn “rhan hanfodol o gyfrifoldeb byd-eang yr MCC i’r gamp”.

Bydd y newid yn cael ei gyflwyno ar unwaith, a hynny bedair blynedd yn unig ar ôl iddyn nhw benderfynu peidio â newid y deddfau’n swyddogol.

Ond maen nhw’n nodi ac yn cydnabod erbyn hyn bod y term “batter” eisoes yn cael ei ddefnyddio, ac maen nhw’n annog cyrff llywodraethu a’r cyfryngau i fabwysiadu’r term yn fwy eang.

Yn ôl yr MCC, mae “batter” yn debycach i’r termau “bowler” a “fielder” sydd eisoes yn cael eu defnyddio a’u derbyn drwyddi draw.

Cafodd termau niwtral eu defnyddio gymaint â phosib yn ystod y gystadleuaeth Can Pelen yn ddiweddar, wrth i gemau’r dynion a’r merched gael sylw cyfartal.

Ymateb

“Mae’r MCC yn credu bod criced yn gêm i bawb ac mae’r cam hwn yn cydnabod fod tirlun y gêm yn newid yn yr oes sydd ohoni,” meddai Jamie Cox, Ysgrifennydd Cynorthwyol (Criced a Gweithrediadau) yr MCC.

“Mae’r defnydd o’r term ‘batter’ yn esblygiad naturiol yn ein hiaith griced gyffredin ac mae’r derminoleg eisoes wedi’i mabwysiadu gan nifer o’r rheiny sydd ynghlwm wrth y gamp.

“Dyma’r amser priodol i gydnabod yr addasiad hwn yn ffurfiol, ac rydym wrth ein boddau, fel Ceidwaid y Deddfau, o gael cyhoedid’r newidiadau hyn heddiw.”