Fe fydd tîm pêl-droed merched Cymru’n gobeithio am fomentwm yn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd pan fyddan nhw’n herio Estonia nos yfory (nos Fawrth, Medi 21).
Daw’r daith i Parnu ar ôl eu buddugoliaeth swmpus o 6-0 dros Kazakhstan yn eu gêm agoriadol.
Mae disgwyl iddyn nhw sicrhau’r fuddugoliaeth yn erbyn tîm oedd wedi colli o 4-0 gartref yn erbyn Slofenia yn eu gêm gyntaf nhw.
Dydy Cymru erioed wedi cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol, ond mae ganddyn nhw gyfle gwych y tro hwn i deithio i Awstralia a Seland Newydd yn 2023.
Ffrainc yw’r ffefrynnau i ennill y grŵp, a bydd y tîm yn yr ail safle yn mynd i’r gemau ail gyfle.
Byddan nhw’n herio Slofenia, Estonia, Groeg a Ffrainc rhwng Hydref 22 a Thachwedd 30.