Fe wnaeth y Gymraes Jasmine Joyce serennu wrth i dîm rygbi Prydain ennill rownd derfynol y Vancouver Fast Four 7s, cystadleuaeth sy’n rhan o gyfres Saith Bob Ochr y Byd, yng Nghanada dros y penwythnos.

Sgoriodd y gwibiwr o Sir Benfro hatric o geisiau wrth iddi gael ei henwi’n seren y gêm yn BC Place, ar ôl i Brydain guro’r Unol Daleithiau o 34-12 i godi’r tlws.

Daeth ei cheisiau yn y funud gyntaf, yr ail funud a’r wythfed munud, wrth iddi ddangos ei sgiliau ymosodol.

Ond roedd hi hefyd yn cael ei chanmol yn ystod y gystadleuaeth am ei sgiliau wrth amddiffyn.

Roedd hi eisoes wedi creu argraff mewn gêm grŵp yn erbyn gwrthwynebwyr Prydain yn y rowndiau cynnar.

Roedd ceisiau hefyd i Emma Uren, Grace Crompton ac Amy Wilson Hardy.

Chwarae ar y lefel uchaf

Cyn y gystadleuaeth, dywedodd Jasmine Joyce ei bod hi’n edrych ymlaen at y gyfres a chwarae dros Brydain gan nad oes gan Gymru dîm yn y gyfres.

“Dw i wrth fy modd yn chwarae saith bob ochr, dim ots a yw hynny dros dîm GB, Cymru neu bwy bynnag,” meddai.

“Felly mae cael mynd i Ganada a Dubai [ym mis Tachwedd/Rhagfyr] yn eithaf cŵl.

“I fi fel Cymraes, dw i ddim yn cael llawer o gyfleoedd i chwarae yn erbyn y timau o safon fyd-eang oherwydd dydyn ni ddim yn rhan o Gyfres Saith Bob Ochr y Byd HSBC ac rydyn ni ben isaf Rygbi Ewrop felly mae hi’n anodd mynd yn ôl [o GB i Gymru] gan wybod y byddwch chi’n chwarae yn erbyn timau ar y pen isaf.

“I fi a’r merched Albanaidd, mae’n fater o fwynhau pob eiliad o chwarae i dîm GB eto.

“Dydyn ni ddim yn gwybod pryd, neu a fyddwn ni’n cael cyfle eto i chwarae yn erbyn y timau hyn.”