Gyda’r tymor yn dechrau poethi, sut hwyl a gafodd pêl-droedwyr Cymru’r penwythnos hwn?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd y rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru yn hapus pan ymunodd Dan James â Leeds yn ddiweddar gan wybod y byddai’r Cymro yn cael mwy o funudau ar y cae yno nac ym Man U. Yr unig bryder gan ambell un oedd mai Tyler Roberts a fyddai un o’r rhai i ildio’r munudau hynny iddo! Felly yn union y bu yn erbyn Newcastle nos Wener, James yn dechrau a Roberts yn dod ymlaen yn ei le gyda hanner awr yn weddill. Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi er i Leeds lwyr reoli ac roedd James braidd yn anffodus i beidio ennill cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf.

Ond gwell rhannu munudau na pheidio cael dim o gwbl mae’n debyg achos ni wnaeth yr un Cymro arall chwarae yn yr Uwch Gynghrair y penwythnos hwn!

Ar y fainc yr oedd y gôl-geidwaid, Danny Ward i Gaerlŷr a Wayne Hennessey i Burnley. Nid oedd Connor Roberts yng ngharfan Burnley ychwaith ond mae’n debyg ei fod yn agosáu at ffitrwydd llawn yn dilyn anaf yn ôl cefnogwr a ddigwyddodd daro arno ar stryd ym Manceinion yr wythnos hon pryn bynnag!

Nid oedd y cefnwyr ifanc, Fin Stevens a Neco Williams yng ngharfanau Brentford a Lerpwl wrth i’r ddau dîm ennill ddydd Sadwrn. Ac wedi i’r ddau chwarae 90 munud yn erbyn Rennes yng Nghynghrair Europa nos Iau, ar y fainc yr oedd Joe Rodon a Ben Davies wrth i Tottenham golli’n drwm yn erbyn Chelsea ddydd Sul.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Daeth gêm ryfedda’r penwythnos yn y Bencampwriaeth yn Luton ddydd Sadwrn wrth i Abertawe daro nôl i gipio pwynt ar ôl bod dair gôl i ddim ar ei hôl hi ar hanner amser. Digwyddodd hynny’n bennaf oherwydd newid triphlyg gan Russell Martin ar yr egwyl ac un o’r chwaraewr a ddaeth i’r cae i newid y gêm a oedd Ben Cabango, yn tynhau pethau yn y cefn yn ogystal â chreu’r ail gôl i Oliver Ntcham. Chwaraeodd Tom Lockyer y 90 munud i Luton.

Nid oedd hi’n ddiwrnod cystal i Gaerdydd wrth iddynt golli gartref o gôl i ddim yn erbyn Bournemouth. Dechreuodd tri Chymro i’r Adar Gleision, Will Vaulks, Mark Harris a Kieffer Moore, a daeth Rubin Coliwill oddi ar y fainc i geisio creu argraff yn yr hanner awr olaf. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Sam Bowen i’r tîm cartref ac felly hefyd David Brooks i’r gwrthwynebwyr. Gwnaeth Chris Mepham fymryn yn well wrth gael ei ddefnyddio fel eilydd gwastraffu amser yn yr eiliadau olaf!

Cafodd un o gyn chwaraewyr Caerdydd wythnos dda iawn. Chwaraeodd Harry Wilson ym muddugoliaeth Fulham o ddwy gôl i un yn erbyn Reading ddydd Sadwrn a hynny wedi iddo greu un a sgorio un mewn buddugoliaeth swmpus ym Mirmingham ganol wythnos.

Harry Wilson

Bu’n wythnos anodd iawn i Derby wrth i’r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr. Dyfodol ansicr i Tom Lawrence felly ond o leiaf fe gafodd ef e’i gyd chwaraewyr fuddugoliaeth ar y penwythnos, yn trechu Stoke o ddwy gôl i un. Yn anarferol iawn, nid yr oedd yr un Cymro yn nhîm Stoke, am y tro cyntaf ers blynyddoedd tybiaf. Dim ond un, Adam Davies, a oedd ar y fainc hyd yn oed.

Tîm arall mewn trafferthion yw Nottingham Forest, yn sownd ar waelod y Bencampwriaeth ac wedi diswyddo eu rheolwr, Chris Hughton, yn ystod yr wythnos. Cawsant hwythau ganlyniad da ddydd Sadwrn serch hynny, yn curo Huddersfield o ddwy gôl i ddim, gyda Brennan Johnson yn creu’r gôl agoriadol i Lewis Grabban gyda rhediad gwych ar yr asgell dde. Chwaraeodd Sobra Thomas y gêm gyfan i’r gwrthwynebwyr.

Straffaglu tua gwaelod y tabl y mae Peterborough hefyd ac mae’n debyg i bethau fynd yn reit flêr rhwng y rheolwr, Darren Ferguson, a’r gôl-geidwad, Christy Pym, wedi iddo yntau ildio naw gôl mewn dwy gêm! Roedd hynny’n newyddion da iawn i’r Cymro, Dave Cornell, a gamodd i’r tîm a chadw llechen lân mewn buddugoliaeth gyfforddus o dair gôl i ddim yn erbyn Birmingham.

Golwr arall sydd yn gwneud yn dda iawn yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd yw Chris Maxwell i Blackpool. Enillodd ei dîm o ddwy gôl i un oddi cartref i Middlesbrough ddydd Sadwrn.

Chwaraeodd Rhys Norrington-Davies y gêm gyfan wrth i Sheffield United guro Hull o dair gôl i un. Dechreuodd Matthew Smith i Hull ond cael ei eilyddio ar hanner amser.

Chwaraeodd Andrew Hughes yng ngêm gyfartal Preston yn West Brom ond parhau i fod wedi ei anafu y mae Ched Evans.

Gêm gyfartal a gafodd Millwall yn erbyn Coventry hefyd, gydag ymddangosiad prin o ddechrau’r gêm i Tom Bradshaw.

 

*

 

Cynghreiriau is

Cododd Wigan i frig yr Adran Gyntaf gyda buddugoliaeth gyfforddus yn Accrington, pedair i un y sgôr terfynol gyda Gwion Edwards yn chwarae deunaw munud oddi ar y fainc. Mae Wigan yn disodli Sunderland, a gafodd gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn Fleetwood. Ymddangosodd y blaenwr sydd ar fenthyg o Everton, Nathan Broadhead, i’r Cathod Du.

Dau dîm arall sy’n brwydro tua’r brig yn dilyn buddugoliaethau dros y penwythnos yw Plymouth a Wycombe. Chwaraeodd James Wilson a Luke Jephcott wrth i Plymouth ennill o gôl i ddim yn Wimbledon ac roedd Joe Jacobson a Sam Vokes yn nhîm Wycombe a drechodd Charlton o ddwy i un. Ar y fainc yr oedd Adam Przybek i Wycombe ond chwaraeodd Chris Gunter y gêm gyfan i’r gwrthwynebwyr.

Ipswich a aeth â hi o gôl i ddim wrth iddynt deithio i wynebu Lincoln. Chwaraeodd Wes Burns a Lee Evans i Fois y Tractor a Regan Poole i’r tîm cartref.

Colli fu hanes Gethin Jones, Jordan Williams, Josh Sheehan a Lloyd Isgrove gyda Bolton yn erbyn Rotherham. Colli a wnaeth Portsmouth hefyd yng Nghaergrawnt. Dechreuodd Ellis Harrison i Pompey a daeth Louis Thompson oddi ar y fainc ond eilyddion heb eu defnyddio a oedd Kieron Freeman a Joe Morrell.

Yn yr Ail Adran roedd gêm gyfartal i Jonny Williams gyda Swindon ond colli a wnaeth Tom King a Liam Shephard gyda Salford.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Darbi Dundee a oedd gêm fawr y penwythnos yn Uwch Gynghrair yr Alban a chreodd Dylan Levitt gryn argraff ar ôl dod i’r cael fel eilydd ar gyfer yr ail hanner gyda’r gêm yn ddi sgôr. Aeth ei dîm, Dundee United, ymlaen i ennill y gêm o gôl i ddim.

Dylan Levitt

Chwaraeodd Ben Woodburn ychydig dros awr wrth i Haerts gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn Ross County ond ar y fainc yr oedd Alex Samuel i’r gwrthwynebwyr.

Roedd buddugoliaeth gofiadwy i Livingston yn erbyn Celtic ddydd Sul ond gwylio o’r fainc a wnaeth y golwr ifanc, Daniel Barden. Parhau i fod allan o garfan Aberdeen y mae Ryan Hedges a Marley Watkins oherwydd anaf, ac felly hefyd Christian Doidge yn Hibs.

Mae tîm Owain Fôn Williams, Dunfermline, ar waelod Pencampwriaeth yr Alban ac roedd ganddynt gêm anodd ddydd Sadwrn, yn erbyn y tîm ar y brig, Inverness. Llwyddodd y Cymro i gadw llechen lân serch hynny mewn gêm ddi sgôr.

Yng Ngwlad Belg, fe ddechreuodd Rabbi Matondo am y tro cyntaf i Cercle Brugge wrth iddynt gael buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn Eupen. Yn yr Almaen, roedd buddugoliaeth gyfforddus i St. Pauli yn erbyn Ingolstadt ond gwylio o’r fainc a wnaeth James Lawrence.

Er nad yw anaf Gareth Bale mor ddrwg ag yr oedd rhai yn ei ofni, mae’n rhy fuan o hyd iddo ddychwelyd i dîm Real Madrid ac nid oedd yn y garfan wrth iddynt deithio i Valencia nos Sul.

Nid oedd golwg o Ethan Ampadu yng ngharfan Venezia wrth iddynt wynebu Spezia yn Serie A brynhawn Sul ac ar y fainc y dechreuodd Aaron Ramsey i Juventus yn erbyn Milan yn y gêm hwyr.