Mae’r actor John Challis wedi marw’n 79 oed yn dilyn brwydr â chanser.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Boycie yn y gyfres gomedi Only Fools and Horses.

Bu’n rhaid iddo ganslo taith yn gynharach y mis hwn yn sgil ei salwch.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod yn “gadael gwaddol arbennig o waith a fydd yn parhau i ddod â phleser a gwên am nifer o flynyddoedd i ddod”.

Roedd Terrance Aubrey Boyce, neu ‘Boycie’, yn un o gymeriadau amlycaf a mwyaf poblogaidd y gyfres oedd yn serennu David Jason a Nicholas Lyndhurst.

Chwaraeodd e’r cymeriad rhwng 1981 a 2003, yn ogystal ag ymddangos yn y gyfres The Green Green Grass oedd yn seiliedig ar y gyfres wreiddiol.

Yn ddiweddar, daeth John Challis yn ddinesydd anrhydeddus yn Serbia, un o’r gwledydd lle mae ei gymeriad yn boblogaidd, ac fe wnaeth John Challis greu rhaglen ddogfen, Boycie in Belgrade, yn olrhain hynny.

Roedd ‘Boycie’ yn briod â Marlene (Sue Holderness), ac roedd e’n aml yn ffraeo â Del Boy (David Jason), gyda’r ddau yn wŷr busnes digon amheus.

Yn ddiweddarach, aeth John Challis yn ei flaen i serennu yn y gyfres Benidorm ar ITV.