Dim ond tair pennod o Pobol y Cwm fydd yna yn lle pedair o fis Tachwedd ymlaen.

Mae S4C wedi cadarnhau y bydd nifer penodau’r gyfres deledu boblogaidd yn cael ei gwtogi o bedair i dair yr wythnos o fis Tachwedd.

Costau ychwanegol oherwydd Covid yw’r prif reswm am y penderfyniad yn ôl S4C.

Mae’r rhaglen yn cael ei chynhyrchu gan BBC yn eu stiwdios yng Nghaerdydd.

Costau

Mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â’r gyfres nesaf o fis Ebrill ymlaen.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod “nifer o bethau i’w hystyried a’u cytuno”.

Mae’r materion hynny’n cynnwys “beth yw effaith Covid ar y drefn cynhyrchu o Ionawr ymlaen, costau ychwanegol sy’n deillio o gynhyrchu dan drefniadau Covid [a] deisyfiad S4C i gael cynnwys digidol/ar-lein dan faner Pobol y Cwm.”

Mae angen hefyd “ystyried sut mae costau diweddaru offer technegol i gyd yn bwydo mewn i’r broses”.

Ychwanegodd y llefarydd: “Gobaith S4C yw dod â’r trafodaethau i fwcl cyn gynted â phosib er mwyn i bawb gael eglurder ynghylch y dyfodol.”