Mae gŵyl boblogaidd ‘Ha’ Bach y Fic’ yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen, Pen Llŷn wedi gorfod cael ei gohirio oherwydd Covid.

Bu i aelod o staff y dafarn ddal y feirws, ac mae’r trefnwyr wedi penderfynu canslo’r digwyddiad yn sgil hynny er mwyn diogelu’r staff a chwsmeriaid.

Roedd dwy noson o adloniant wedi eu trefnu yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen ar gyfer y penwythnos hwn.

Nos Sadwrn (18 Medi), roedd disgwyl i Meinir Gwilym, Phil Gas a’r Band, Tegid Rhys, a Dafydd Eurgain chwarae yno.

Roedd cwis i fod i gael ei gynnal gan y Prifardd Guto Dafydd heno (17 Medi), ond mae trefnwyr yn gobeithio bydd hwnnw’n gallu cael ei symud ymlaen i fis Hydref.

“Mae aelod o’n staff ni’n bositif am Covid,” meddai Lois Elis Roberts, un o drefnwyr yr ŵyl, wrth golwg360.

“Mae criw ohonon ni o’r pentre’ wedi bod yn eistedd yn ei gwmni fo dros y penwythnos, felly’n meddwl na’r peth callaf a chyfrifol i wneud oedd gohirio, yn anffodus.”

Dydy’r trefnwyr ddim yn rhagweld y bydd y digwyddiad llawn yn cael ei aildrefnu, ond yn meddwl y byddai’n “well sticio i gael un band ar y tro tra mae’r sefyllfa fel mae hi.”