Mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed ar raglen fwyaf poblogaidd Netflix ym Mhrydain ar hyn o bryd.
Yn ail bennod Jack Whitehall: Travels with My Father, mae’r digrifwr a’i dad, Michael, yn ymweld â fferm Gareth Wyn Jones yn y Carneddau, uwchben pentref Llanfairfechan ar arfordir yn Sir Conwy, ac yn dysgu ychydig o Gymraeg gan y ffermwr.
Roedd gan Jack Whitehall agwedd “wych” tuag at yr iaith, meddai Gareth Wyn Jones wrth golwg360, ac mae sicrhau bod y Gymraeg i’w chlywed yn eang ar blatfformau digidol fel Netflix yn gyfle i roi’r iaith a’r genedl “ar y map”.
Drwy’r gyfres, sydd yn rhif un ar siart rhaglenni mwyaf poblogaidd Netflix, mae Jack Whitehall a’i dad yn ymweld â gwahanol rannau o Brydain.
Yn ogystal ag ymweld â fferm fynyddig, mae’r digrifwr a’i dad yn aros mewn gwesty moethus ar gyrion y Bala ac yn mynd i weld pentref eiconig Portmeirion, ym mhenodau cynta’r bumed gyfres.
Ac yn ystod yr ail bennod, mae Gareth Wyn Jones yn dysgu Jack Whitehall a’i dad i gorlannu defaid, ac yn tywys y ddau i hen gaer Geltaidd Dinas, gan egluro arwyddocâd y lleoliad.
“Agwedd wych”
Roedd gan Jack Whitehall agwedd “wych” tuag at y Gymraeg, meddai Gareth Wyn Jones, a’r digrifwr a’i dad yn llawn gymaint o hwyl oddi ar y camera.
“Fe wnes i gael [Jack] i ddweud ‘cachu’ ambell i waith!” meddai’r ffermwr wrth golwg360.
“Roedd o wrth ei fodd yn cael y cyfle [i ddysgu]. Roedd o eisio dysgu, gaethon nhw eistedd yn y tŷ efo ni a chael cig oen Cymreig.
“Roedden nhw jyst yn bobol agos ata chdi, roedd ei dad o… roedd ganddo fwy o sense of humour na Jack i ddweud y gwir!
“Roedd o’n ddoniol, a fo a’i dad yn dod ymlaen fel tŷ ar dân.
“Mae’n siŵr na wnawn ni weld llawer o bobol fel Jack eto, achos mae o wedi hitio’r Hollywood big screen rŵan dydi.
“Mae o’n ddiddorol cael y criwiau yma acw, criw Netflix. Rydyn ni wedi arfer efo criw S4C a rhyw dri o bobol, a phan mae’r rhain yn dod mae yna ugain ohonyn nhw.
“Roedd o’n fyd o wahaniaeth.”
“Ar y map”
Mae hi “mor bwysig” bod y Gymraeg yn cael sylw mor eang ar blatfformau digidol fel Netflix, meddai Gareth Wyn Jones.
“Fel Cymro i’r carn, mae’n rhoi’r iaith, a ni fel cenedl, ar y map dros y byd. Dydi hwn ddim yn cael ei ddangos mewn rhai llefydd, mae hwn yn cael ei ddangos dros y byd.
“Mae yna lot wedi dweud bod hwnna’n un o’r darnau gorau o’r rhaglen i gyd. Pobol wedi’i fwynhau o gymaint.
“Dw i wedi dychryn faint o bobol sydd wedi bod wrth eu bodd, a gyrru negeseuon, faint o bositif ydi o i’r iaith. A beth dw i’n ei wneud efo’r tours yma – dod â phobol i fyny ar y ffarm – mae o i gyd yn gweithio i ni fel cenedl ac fel gwlad, mae o’n dod â busnes i mewn hefyd, a phres mewn i’r ardal.”
“Cymry Cymraeg yn bod mor ffiaidd ac afiach”
Yn ddiweddar, daeth Gareth Wyn Jones dan y lach ar y cyfryngau cymdeithasol am groesawu’r Ceidwadwr Jacob Rees-Mogg i’w fferm, ac roedd y sylwadau’n brifo mwy gan eu bod nhw’n dod gan Gymry Cymraeg, meddai.
“Mae o fyny i bawb a’i farn, ond dw i yn methu deall bod pobol yn bod mor annifyr, mor afiach, mor bersonol,” meddai.
“Sut bynnag ti’n sbïo arno fo, fo oedd eisio dod acw. Roedd o’n cael yr un croeso ag oedd Jack Whitehall a’i dad, a fysa pob gwleidydd yn cael yr un gwadd acw a’r un teip o tour.
“Dw i ddim yn mynd i newid fy hun i bobol eraill. Dw i ddim yn cytuno efo lot o bethau mae’r boi’n ei wneud nag wedi’u dweud, ond ar ddiwedd y dydd os dyda ni ddim yn agor y drws na chael y sgwrs, does yna byth ddim byd yn mynd i newid.
“Roedd o’n brifo mwy achos bod yna gymaint o Gymry Cymraeg yn bod mor ffiaidd ac afiach.”