Bydd gwaith gan artistiaid o Gymru a Gwlad y Basg yn dod ynghyd dros y penwythnos hwn (17-19 Medi), fel rhan o Ŵyl Rithiol Pererindod.
Mae’r ŵyl yn cynnwys gwaith aml-ddisgyblaethol, tair-ieithog, sy’n archwilio’r syniad o ‘bererindod’ ar ffurf fideo, podlediad, collage, cerddi, dyddiaduron, cerddoriaeth, a mwy.
Wedi’i chydlynu gan Gwmni Tebot a Chwmni Theatr Invertigo, bydd gwaith Amaia Gabantxo ac Oihana Iguaran, Asisko Urmeneta, Elgan Rhys, Emily Meilleur a Femke van Gent, Iestyn Tyne, Jonny Reed, Meinir Roberts a Tafsila Khan yn cael ei arddangos yn yr ŵyl.
Bydd y gwaith yn cael yn cael ei ddangos ar wefan AM, a bydd cyfle i’w weld yn yng nghanolfan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth-y-Swnt, yn Aberdaron o 23 Medi.
‘Ei di ’nôl?’
Mi fuodd Elgan Rhys, a gafodd ei fagu ym Mhwllheli, yn holi trigolion a chyn-drigolion yr ardal am y syniad o ddychwelyd ar gyfer ei fideo byr, sy’n gofyn y cwestiwn ‘Ei di ’nôl?’
“Dw i wedi gwneud fideo byr sy’n trio crisialu canran bach o’r sgyrsiau yna,” meddai Elgan Rhys.
“Mae wedi bod yn ofod i fi edrych ar y cwestiwn sy’n gyffredin i lot ohonon ni – y syniad o ddychwelyd. Dydi o ddim yn gwestiwn du a gwyn byth.
“Mae lot yn dod efo hynna, gan gynnwys y syniad o fynd yn ôl yn emosiynol, yn ddaearyddol, yn hanesyddol. Hefyd yr atgofion, llefydd fyddwn i’n caru dychwelyd iddyn nhw, a llefydd fyddwn i ddim yn licio mynd yn ôl iddyn nhw, yn ddaearyddol ac yn drosiadol.”
Fe gafodd gyfle i fynd ar daith gerdded bersonol i lefydd yr oedd ganddo gysylltiad â nhw ym Mhen Llŷn.
“Roedd hwnna’n ddifyr yn ei hun – gweld sut mae’r ardal yn symud yn ei blaen,” meddai.
“Roedd hwnna’n densiwn difyr wrth i chi ofyn am fynd yn ôl i rywle – ardal yn trefedigaethu, tirlithriad, yr ardal yn shifftio yn llythrennol.
“Y prif beth gen i wrth fynd yn ôl oedd ei bod hi’n gymaint o fraint fy mod i yn gallu mynd yn ôl, yn enwedig pan rydych chi’n ystyried y ffoaduriaid sy’n newydd i’r wlad yma o Afghanistan, y rheiny a fydd yn methu mynd yn ôl i’w cynefin, neu ddim eisio. Mae hwnna yn teimlo’n werthfawr.”
Pererindod y Swnt