Does dim adloniant Cymraeg yn rhaglen hydref a gaeaf Castell Bodelwyddan, sydd bellach yn westy.

Mae’r arlwy yn cynnwys y cantorion o Gymru Wynne Evans a Katherine Jenkins, a’r comedïwyr Jeff Stevenson a Christopher Gee.

Cafodd y castell ei brynu gan grŵp gwestai Bourne Leisure ym mis Mehefin, ac ers hynny maen nhw wedi addasu’r adeilad i fod yn westy, ac yn cynnig nosweithiau a gwyliau adloniant.

Mae is-gwmni Bourne Leisure, Warner Leisure Hotels, yn berchen ar westy ger Castell Bodelwyddan ers 1994.

Caeodd y castell gradd II yn 2019, wedi i Gyngor Sir Ddinbych stopio rhoi grant blynyddol o £144,000 tuag ato.

Mae’r arlwy ar gyfer yr hydref yn cynnwys noson yng nghwmni Wynne Evans, a gwyliau pedair noson gyda pherfformiadau o ganeuon Michael Buble a pherfformiadau gan Eden – deuawd clasurol / pop o Swydd Gaerlŷr a Swydd Warwick.

Does dim o’r arlwy yn Gymraeg, gyda gwyliau Gold, sy’n cynnwys comedi gan Jeff Stevenson a Christopher Gee, a Late & Live, sy’n cynnwys y James Williams Showband a theyrnged i Freddie Mercury, ymhlith yr adloniant.

Mae Warner Leisure Hotels yn cynnig gwyliau ar gyfer oedolion yn unig, ac yn berchen ar saith castell neu blasty arall yn Lloegr hefyd.

Castell Bodelwyddan

Yn wreiddiol, cafodd y ‘castell’ ei adeiladu fel plasty yn y 15fed ganrif gan y teulu Humphreys o Fôn, ac yna ei werthu i’r teulu Williams-Wynn o Wydir.

Bu’r teulu Williams-Wynn yn berchen arno am dros 200 o flynyddoedd, a chafodd ei ailfodelu ar ddechrau’r 19eg ganrif, a’i ail-adeiladu rhwng 1830 a 1832 i edrych fel castell.

Bu’n ysgol breifat wedi i’r teulu werthu’r lês, cyn i Gyngor Sir Clwyd ei brynu yn yr 80au gyda’r nod o’i ddatblygu’n atyniad i ymwelwyr.

Roedd y tŷ a’r tir o’i amgylch ar agor i’r cyhoedd wedyn nes haf 2019.