Mae prosiect newydd i gefnogi’r diwydiant ffilm a theledu i ymgysylltu â thalent ethnig amrywiol yn cael ei lansio heddiw (16 Medi).

Gan ddarparu cyfleoedd i’r diwydiant ac unigolion, mae Cyswllt Diwylliant Cymru (CCW) yn bartneriaeth rhwng cymunedau ethnig amrywiol Cymru, y diwydiant ffilm a theledu, a Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn rhoi hwb i’r diwydiant, ac yn helpu i adlewyrchu diwylliannol gwahanol Cymru ymhellach, meddai’r sylfaenydd.

Mae’r prosiect wedi’i sefydlu gan Fadhili Maghiya, Prif Swyddog Gweithredol Watch-Africa, ac mae’n dod â nifer o bartneriaid ynghyd.

“Mae CCW yn falch iawn o gael Dawn Bowden AS, Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip yn ymuno gyda ni ar gyfer y lansiad, ynghyd a Cymru Greadigol, cynrychiolwyr o BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Channel 4, ochr yn ochr ag unigolion ethnig amrywiol sy’n gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm i rannu eu profiadau,” meddai Fadhili Maghiya am y lansiad.

“Rydym hefyd yn hapus i gael ein hymuno â chyflwynydd X-Ray a Weatherman Walking, Mo Jannah, sydd hefyd yn cynhyrchu sioeau ar gyfer BBC a Channel 4. Gobeithiwn, yn dilyn lansio CCW, y gallwn helpu i greu partneriaeth er budd y cymunedau hyn a’r diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru.

“Gallai unigolion ethnig amrywiol sydd â sgiliau trosglwyddadwy, o drin gwallt i ddylunio, o Adnoddau Dynol i gyllid, ddod o hyd i rôl yn y diwydiant teledu a ffilm, diwydiant sy’n awyddus i ddatblygu ymhellach o’r sgiliau a thalent mae unigolion o’r cymunedau amrywiol ethnig yn gallu darparu.

“Mae hyn yn helpu’r diwydiant i dyfu ac yn helpu i adlewyrchu ymhellach ddiwylliannau gwahanol Cymru. Mae’n ymwneud â chreu partneriaeth. Gallai hyn greu trawsnewidiad yn y diwydiant, ”

“Prysurach nag erioed”

Yn ôl Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, bydd y fenter yn helpu i gael gwared ar rwystrau, a galluogi pobol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig i gael mynediad at hyfforddiant ac arweiniad, gan greu gyrfaoedd tymor hir yn y sector.

“Mae’r diwydiant sgrin yng Nghymru yn ffynnu, ac yn brysurach nag erioed, gyda llawer o gynyrchiadau ar y gweill ar hyn o bryd, a disgwylir llawer mwy o dwf dros y blynyddoedd i ddod,” meddai Dawn Bowden AoS.

“Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i bobl ledled Cymru gael mynediad at amrywiaeth o rolau a grëir o amgylch pob cynhyrchiad, o ddylunio gwisgoedd i wallt a cholur, trydanwyr, seiri, gweithredwyr camerâu a thu hwnt.

“Fel Llywodraeth Cymru rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cynwysoldeb ac amrywiaeth yn ystyriaeth allweddol ar draws pob sector allweddol, mae ‘Cymru Gwrth-hiliol – Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol’ Llywodraeth Cymru yn amlinellu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemig i greu Cymru sydd yn falch o fod yn wrth-hiliol erbyn 2030.”

“Pontio sgiliau”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan S4C, BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Channel 4, a gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

“Mae’n bleser gan S4C gefnogi’r cynllun pwysig yma sy’n pontio’r sgiliau sydd yng nghymunedau amrywiol Cymru gyda’r diwydiant ffilm a theledu,” meddai Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C.

“Rhaid gweithio’n ymarferol i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hanesyddol rhwng pwy sy’n gweithio yn y diwydiant a phwy sydd ddim. Mae’n braf cael cyd-weithio gyda nifer o bartneriaid allweddol er mwyn cefnogi Cyswllt Diwylliant Cymru.”