Er bod cynnal theatr tu allan yn her, mae’r profiad wedi cynnig cyfle i un cwmni fynd â’u perfformiadau at gymunedau na fyddai’n cael cyfle i weld sioeau yn aml.
Yn ôl Lee Lyford, cyfarwyddwr artistig Theatr Iolo, golygodd cyfyngiadau’r pandemig fod y cwmni wedi gallu cyflwyno profiad theatrig newydd i’w cynulleidfaoedd.
Mae ymchwil ar y gweill gan academyddion ac ymarferwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Institute of Making yng Ngholeg Prifysgol Llundain sy’n ystyried theatr a pherfformio yn ystod, ac wedi, Covid-19.
Un o’r agweddau sy’n derbyn sylw prosiect Ever After yw gofod a phensaernïaeth theatrau, ac mae rhan gyntaf eu hastudiaeth yn trafod y posibilrwydd bod gofod theatrig yn newid o fod yn le mae modd mynd iddo’n gorfforol i fod yn ‘beiriant’ sy’n gallu cael ei addasu er mwyn ymweld â gwahanol lefydd a gofodau.
O ran hynny, mae’r prosiect yn ystyried safleoedd mawr ôl-ddiwydiannol, yn ogystal â phebyll syrcas, theatrau â waliau agored, a chytiau gwair amaethyddol, gyda’r ymchwil yn ystyried faint o gysgod sydd ei angen ar gynulleidfaoedd.
Her
Mae Theatr Iolo wedi bod yn perfformio un o’u sioeau plant, Hoof!, mewn trelar, ac er bod y tywydd yn cynnig heriau, mae’r trelar wedi cynnig cyfleoedd newydd.
“Dyma oedd y peth cyntaf i mi wneud tu allan oedd yn teithio, doedd ddim yn walkabout theatr ond yn berfformiad efo dechrau a diwedd,” eglura Lee Lyford.
“Roedd e’n teimlo’n weddol newydd.
“Yn amlwg, roedd y tywydd yn her… i ddechrau fe wnaethon ni ei gwneud hi’n sioe Nadolig ar gyfer y gaeaf ac roedd yna lot o heriau o ran y tywydd, oerfel a’r amgylchedd efo hynny.”
Bu’n rhaid rhoi gorau i’r sioe yn y gaeaf oherwydd cyfyngiadau Covid, gan ei haddasu er mwyn teithio yn y gwanwyn.
“Dw i’n meddwl bod delio â chynulleidfa yn ystod Covid wastad am fod yn heriol, roedden ni dal yn gorfod sicrhau ymbellhau cymdeithasol, bod yn gyfarwyddol ynghylch lle’r oedd pobol yn gweld y sioe.
“Rydyn ni wedi bod yn gwneud sioe i fabis hefyd, sy’n brofiad ychydig yn wahanol eto, ond eto tu allan.”
Cyfleoedd
Ond yn ogystal â bod yn her, mae perfformio tu allan yn cynnig cyfleoedd newydd, meddai Lee Lyford.
“Yn enwedig gyda Hoof!, oherwydd ein bod ni wedi prynu’r trelar yma ac wedi’i droi e’n ofod theatr tu allan, y peth gwych yw’r cyfleoedd oedd gennym ni i fynd at gynulleidfaoedd fyddai ddim fel arfer yn gweld ein gwaith,” meddai wrth golwg360.
“Mae hynny wedi newid pethau i ni mewn ffordd, gallu cysylltu â phobol sydd heb allu profi ein gwaith ni yn y gorffennol, efallai, pobol fyddai ddim yn dod i’r lleoliadau yng Nghaerdydd ac ati.
“Rydyn ni wedi gallu mynd i gymunedau doedd gennym ni ddim perthynas â nhw cynt.
“Dw i’n meddwl y byddem ni’n defnyddio cymysgedd o’r ddau, byddem ni’n mynd yn ôl i theatrau.”
Eglurodd bod y sioe Baby, Bird & Bee, sef sioe tu allan arall y cwmni, nawr yn cael ei chynnal mewn theatrau a thu allan.
Cynllun Theatr Iolo yw parhau i ddefnyddio’r trelar ar gyfer perfformiadau awyr agored, ac mae’r cwmni’n gweithio ar y syniad nesaf ar ei gyfer yn barod.
“Y cynllun yw bod y trelar yn dal i deithio, yn enwedig teithio i lefydd sydd efallai ddim yn cael y cyfle i weld theatr yn aml.
“Dw i’n meddwl y bydd e’n rhan o’n rhaglen o hyn ymlaen.”
‘Gwydn a dyfeisgar’
Mae Lee Lyford yn credu bod y pandemig wedi newid theatr, ac yn parhau i newid y sector.
“Dw i’n meddwl bod [Covid] wedi newid theatr, ac y bydd yn parhau i wneud hynny, achos dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd,” meddai.
“Mae theatr yn eithaf gwydn mewn gwirionedd, a dyfeisgar.
“Dyw e ddim yn beth da bod hyn wedi digwydd ond, i ni, mae e wedi cyflwyno cyfleoedd na fydden ni wedi gallu mynd ar eu cyfyl nhw [fel arall], mae’n debyg.
“Fe gaethon ni’r arian ar gyfer y trelar gan y Gronfa Adfer Ddiwylliannol gafodd ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Fe wnaeth hynny newid pethau i ni, gallu gwneud gwaith tu allan i’n cynulleidfaoedd a gallu cyflwyno profiad theatrig wahanol… rydyn ni’n trio creu rhywbeth fel byddech chi’n ei brofi petaech chi’n mynd i’r theatr o gymharu â’i bod hi ond yn sioe tu allan.”