Ar y diwrnod y byddai Ray Gravell, y cawr o Fynydd-y-garreg yn Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn 70 oed, fe fydd S4C yn darlledu drama lwyfan am ei fywyd sydd wedi’i haddasu ar gyfer y sgrîn.

Yn union fel y ddrama lwyfan, Gareth John Bale sy’n chwarae’r brif rhan yn Grav am 9 o’r gloch heno (nos Sul, Medi 12).

Mae’r stori’n adrodd hanes ei fywyd gan fanylu ar rai o’r digwyddiadau mawr oedd wedi ei siapio fel cymeriad oedd yn cael ei ystyried yn gawr ac yn arwr cenedlaethol, ac yntau’n chwaraewr rygbi ac yn ddarlledwr poblogaidd.

Owen Thomas, Peter Doran a Gareth John Bale ei hun oedd wedi creu’r ddrama lwyfan, ac mae’r cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan Marc Evans, sy’n adnabyddus am weithio ar raglenni fel The Pembrokeshire Murders, Manhunt ac Y Bomiwr a’r Tywysog.

Mae Gareth John Bale eisoes wedi chwarae’r prif gymeriad ar lwyfan dros gant o weithiau.

‘Gwisgo’i galon ar ei lawes’

“Mae yna elfennau o hapusrwydd a thristwch yn y ddrama, dyna sy’n ei gwneud hi’n arbennig,” meddai.

“Dwi’n amau y byddai Grav ei hun yn dweud bod sawl chwaraewr yn ystod hanes y crys coch yn well chwaraewyr na Grav – dim llawer, ond rhai.

“Ond o ran stori eu bywydau, does dim cymaint i’w ddweud, ac roedd Grav yn ddyn oedd yn gwisgo’i galon ar ei lawes.

“Mae’r ddrama yn mynd dros rhai o’r adegau trist, rhai a gafodd effaith fawr arno fe ond ry’n ni hefyd yn dathlu ei fywyd e.

“Mae yna chwerthin yn ogystal â dagrau yn y ffilm, fel oedd yn gwbwl nodweddiadol o Ray o’r Mynydd.

“Yn hytrach na trio gwneud rhyw fath o caricature, fi’n trio cael ysbryd y dyn.

“Dyna beth sy’n bwysig i fi, yw bod ysbryd Grav yn dod drwyddo.

“Sa i’n credu fod unrhyw un yn mynd i wylio fi’n chwarae Grav a meddwl, ‘Mae e’n edrych yn union fel Grav’. Ond beth mae pobl wedi dweud yw, ‘Ti wedi dala fe, ti wedi dala ei enaid e’.

“Y peth pwysicaf i mi yw ein bod ni’n talu teyrnged i Ray a’i gofio fe yn y ffordd iawn, ond hefyd bod ei deulu e’n hapus gyda fe.

“Mae hynny’n hynod o bwysig i fi ac i bawb. Fi’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth nhw dros y blynyddoedd.”

Cyfraniad mawr i fywyd Cymru

Erbyn i Ray Gravell ymddeol o’r cae rygbi yn 1982, roedd e wedi chwarae 485 o weithiau i’r Scarlets ac wedi sgorio 120 o geisiau.

Enillodd e 23 o gapiau fel canolwr dros Gymru, a phedwar dros y Llewod.

Aeth yn ei flaen ar ôl ymddeol i fod yn Llywydd Clwb Rygbi Llanelli, y clwb yr oedd e wedi’i gynrychioli trwy gydol ei yrfa, ac roedd yn aelod o’r tîm gurodd Seland Newydd o 9-3 yn 1972.

Enilodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc yn 1975.

Actiodd e mewn sawl cyfres deledu a ffilm, gan gynnwys Rebecca’s Daughters gyda Peter O’Toole a Damage gyda Jeremy Irons.

Roedd e’n gyflwynydd cyson ar Radio Cymru a Radio Wales yn ogystal, ac yn gyd-sylwebydd ar raglenni rygbi S4C a’r BBC.

Collodd ei goes yn 2000 ar ôl brwydr â chlefyd siwgr ac fe fu’n rhaid iddo roi’r gorau i fod yn Geidwad y Cledd yng Ngorsedd y Beirdd, gan drosglwyddo’r gleddyf i chwaraewr rygbi arall gyda’r Scarlets, Robin McBryde.

Union 35 o flynyddoedd wedi’r fuddugoliaeth fawr dros y Crysau Duon, bu farw Ray Gravell ar wyliau yn Sbaen, ac roedd miloedd o bobol yn ei angladd ar Barc y Strade.

Fel actor ifanc, roedd Gareth yn ddigon ffodus i weithio gyda Ray ar y gyfres S4C, A470.

“Erbyn hynny roedd Grav wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr enwog Louis Malle, ac actorion fel Juliette Binoche, Jeremy Irons a Peter O’Toole,” meddai Gareth John Bale.

“Roedd ei CV actio fe lot yn fwy na’n un i. Ond roedd e wastad yn dweud, ‘Ti yw’r expert, dyweda di wrtha i nawr…

“Dw i’n cofio mewn ryw frêc, roedden ni’n eistedd rownd y bwrdd. Roedd rhai o’r actorion ifanc yn gwybod pwy oedd e, ond yn trial cael e mas ohono fe. Fi’n cofio fo’n dweud wrtha nhw, ‘Well, I used to play a bit of rugby.’

“Fe saethodd Alun ap Brinley mas o’i gader! ‘A little bit of rugby? Boys, this is a British Lion!’ meddai.

“Ond doedd Grav ddim yn fodlon dweud hynny ei hunan. Doedd e byth yn siarad ei hunan lan.

“Am dridiau wnes i weithio gyda fe, ond fel mae pawb sy’n cwrdd â Grav yn dweud, roedd e jyst yn bleser.”