Mae’r Stereophonics wedi cyhoeddi ail sioe yn y Stadiwm Cenedlaethol yn y brifddinas ym mis Rhagfyr, sy’n golygu y byddan nhw nawr yn chwarae ar ddydd Gwener (17 Rhagfyr) a dydd Sadwrn (18 Rhagfyr).

Bu i’r band berfformio yno yn 2001 a 2003.

A’r tro hwn fe fydd Tom Jones a Catfish and the Bottlemen hefyd yn perfformio.

Dyma fydd y tro cyntaf i Tom Jones berfformio yn y Stadiwm Cenedlaethol a’r tro cyntaf iddo berfformio yng Nghaerdydd ers dros 10 mlynedd.

“Dw i wedi bod yn ffrindiau da gyda’r Stereophonics ers dros ugain mlynedd, ac roeddwn wrth fy modd pan ofynnodd Kelly [Jones, canwr-gitarydd y Stereophonics] i mi ymuno â nhw ar gyfer y sioeau arbennig hyn mewn lle arbennig iawn,” meddai Tom Jones.

“Alla i ddim aros i fod yno i rannu noson wych gyda chi i gyd!”

Mae ticedi’n costio rhwng £45 ac £85.

“Creu atgofion”

Dywedodd Kelly Jones, canwr a gitarydd y Stereophonic:

“[Safle] Stadiwm Principality yw’r lle y gwelais fy gig gyntaf gyda fy mrodyr hŷn yn gwylio’r Rolling Stones yn 1989 yn hen Barc yr Arfau.

“Ar ôl bron i ddwy flynedd o gyfnodau clo roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth i’r Cymry fwynhau.

“Felly, gofynnais i’n ffrindiau da i ymuno â ni.

“Mae Tom yn ddyn sydd wedi rhannu llwyfan gyda phawb yn y byd cerddorol, dw i wedi cael rhai o nosweithiau gorau fy mywyd gydag ef a dwi’n siŵr y bydd hon yn un arall!

“A dwi wastad wedi bod wrth fy modd gyda Catfish And The Bottlemen – mae Van wastad wedi bod yn ffan mawr ohonom ni ers ei fod yn blentyn.

“Mae ’na groeso i bawb yn y stadiwm, dewch i godi gwydryn a chreu atgofion.”

Cerddoriaeth newydd

Mae’r Stereophonics wedi rhyddhau cerddoriaeth newydd yr wythnos hon.

‘Hanging On Your Hinges’ yw’r gân gyntaf i gael ei rhyddhau oddi ar eu halbwm newydd.