Mae arlwy Gŵyl Newydd 2021, sydd wedi ei lleoli yng Nghasnewydd, wedi ei chyhoeddi – gydag artistiaid amlwg yn perfformio mewn lleoliadau amlwg o fewn y ddinas.

Bydd yr ŵyl yn digwydd am y pedwerydd tro eleni, ac yn cael ei chynnal yn rhithiol ddydd Sadwrn, 25 Medi.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol iddi fod ar-lein, a bydd modd ei gwylio ar ap a gwefan sianel AM.

Bydd pump o artistiaid, sef N’famady Kouyate, Eädyth, Mali Haf, Lily Beau a Los Blancos, yn perfformio ar draws pump o leoliadau mwyaf eiconig Casnewydd, sy’n cynnwys y Bont Gludo ac Amffitheatr Caerllion.

Hefyd, bydd arddangosfa rithiol wedi’i churadu gan yr artist Rhianwen Williams, yn ogystal â phodlediad arbennig yn cael ei gynhyrchu gan Gethin Griffiths a Chris Roberts, awduron blog Sôn am Sîn.

Mae’r ŵyl yn gyfle hefyd i ddysgwyr Cymraeg gael ymdrochi eu hunain yn yr iaith, ac ar ben hynny, mae hyd yn oed sesiwn i ddysgu iaith arwyddion!

Pont Gludo Casnewydd, lle bydd Eädyth yn perfformio

‘Uchelgeisiol’

Bu Owain Williams yn trefnu’r ŵyl yng Nghasnewydd am y tro cyntaf eleni.

“Mae’n eitha’ cyffrous gweld yr holl sylw ar hyn o bryd,” meddai wrth golwg360.

“Dyma’r flwyddyn gyntaf i fi drefnu gŵyl, ac mae o wedi rhoi insight gwahanol i fi ar gyfer bob dim.

“Mae gen ti gymaint i feddwl amdano, ond ar ôl gweld y lein-yp yn mynd allan bore ’ma, mae o’n cŵl gallu gweld ymateb pobol.”

Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, doedd dim modd trefnu gŵyl fyw yn y ddinas, felly roedd rhaid ailfeddwl.

“Yn fuan eleni tra bod pethau dal ar gau, wnaethon ni ddweud ein bod ni bendant eisiau rhoi gŵyl ymlaen,” meddai Owain.

“Felly wnaethon ni benderfynu bod yn uchelgeisiol efo’r syniad o roi rhywbeth ymlaen yn ddigidol, ac ar yr un pryd, bod o’n rhywbeth eitha’ cŵl.

“Gan mai gŵyl Casnewydd ydy hi, ro’n i eisio rhyw elfen leol yn perthyn iddi.

“Aethon ni am artistiaid sydd yn dod o’n weddol agos, fel Lily Beau a Mali Haf [o Gaerdydd].

“Mae o’n grêt bod bob dim wedi gallu dod at ei gilydd eleni.”