Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n astudio’r Gymraeg.
Bydd dau fyfyriwr yn derbyn £500 fel rhan o’r fwrsariaeth, ac mae’r arian yn cael ei gyfrannu gan deulu’r bardd enwog, Waldo Williams.
I ymgeisio am yr arian, bydd rhaid i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf gyflwyno darn o waith i Adran y Gymraeg ar sail testun Heddychiaeth – testun sy’n adlewyrchu daliadau Waldo Williams ei hun.
Mae ceisiadau’n cael eu croesawu gan siaradwyr Cymraeg sy’n ddechreuwyr, yn ddysgwyr canolradd, neu’n rhugl.
Mae’r fwrsariaeth yn dathlu bywyd a chyfraniad diwylliannol Waldo Williams, a oedd yn fyfyriwr ei hun ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1923 a 1927.
Fe ddaeth yn ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol rhwng 1953 a 1963 hefyd.
Roedd eleni yn 50 mlynedd ers ei farwolaeth yn 66 oed.
Cefnogi myfyrwyr
Dywedodd perthnasau Waldo Williams eu bod nhw’n “falch iawn o fod yn gallu cefnogi myfyrwyr i ymuno ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, a thrwy hynny i ddysgu mwy am y pethau oedd mor agos at galon Waldo.”
Roedd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn werthfawrogol iawn o’r rhodd ariannol.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i deulu Waldo am eu rhodd hael sydd wedi’i ddefnyddio i sefydlu Bwrsariaeth Waldo Williams,” meddai.
“Bydd y fwrsariaeth, sy’n werth £500 ym mlwyddyn gyntaf astudiaethau academaidd, yn cynorthwyo myfyrwyr sy’n astudio am radd anrhydedd sengl neu anrhydedd gyfun yn yr Adran, ac fe groesawir ceisiadau gan rai sydd newydd ddechrau dysgu’r Gymraeg neu fyfyrwyr y mae’r Gymraeg yn famiaith iddynt.”