Mae’r Urdd wedi ymrwymo i gynnig lloches dros dro i deuluoedd o Affganistan.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod 230 o Affganiaid wedi cyrraedd Cymru, yn dilyn y sefyllfa argyfyngus sydd yno.
Bydd yr Urdd yn paratoi prydau bwyd, darparu ystafelloedd en suite, a chynorthwyo partneriaid gyda’r gwaith ail-gartrefu.
Yn ogystal, bydd gweithgareddau chwaraeon, celfyddydol ac addysgol yn cael eu cynnal er mwyn cefnogi’r teuluoedd wrth iddyn nhw setlo.
Mae’r Urdd yn ymfalchïo yn ei “hanes hir a balch” o gyflawni gwaith dyngarol ledled y byd, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf wrth roi cymorth i unigolion difreintiedig o Wlad Pwyl, Kenya a Syria.
Byddan nhw’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddarparu ymateb strategaethol i’r sefyllfa yn Affganistan.
“Estyn llaw o gyfeillgarwch”
Fe wnaeth Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, bwysleisio pwysigrwydd rhoi cymorth ar frys i’r rhai sydd mewn angen wrth i’r mudiad gyhoeddi’r cynllun lloches dros dro.
“Mae hwn wedi bod yn ymdrech gwaith tîm enfawr ar draws pob sector yng Nghymru, ac rydym yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid am ein galluogi ni i agor ein drysau i deuluoedd sy’n chwilio am noddfa a diogelwch,” meddai.
“Rydym yn falch o allu helpu, gan barhau i ddangos i’n haelodau pa mor bwysig yw teyrngarwch i wlad a diwylliant, ond hefyd i les dynoliaeth.
“Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol mae cynnig cefnogaeth i eraill yn greiddiol i’n gwaith, ac rydym yn falch o estyn llaw o gyfeillgarwch i gymuned Afghanistan yn eu cyfnod o angen mawr.”