Wrth gyhoeddi bod 230 o unigolion o Affganistan wedi cyrraedd y wlad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw am wneud popeth o fewn eu gallu i roi croeso i ffoaduriaid.
Mae Cymru bellach yn rhoi llety i 50 o deuluoedd, sy’n cynnwys tua 230 o unigolion, gyda’r rhan fwyaf wedi cefnogi unedau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn uniongyrchol yn Affganistan dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Gan gydweithio ag awdurdodau lleol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, sefydliadau cefnogi ffoaduriaid ac Affganiaid Cymreig, dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi sicrhau bod Cymru’n ymgorffori’r weledigaeth o fod yn Genedl Noddfa.
Bydd awdurdodau lleol Cymru yn parhau i gefnogi Cynllun Ailsefydlu Pobol Sy’n Agored i Niwed a’r system loches hefyd.
Fel rhan o’r rhaglen honno, bydd rhagor o deuluoedd yn ymgartrefu yng Nghymru.
“Croeso cynnes”
Dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, eu bod nhw am sicrhau bod dehonglwyr, ffoaduriaid a theuluoedd o Affganistan yn cael eu croesawu.
“Heddiw, rydym yn croesawu’r teuluoedd a’r unigolion sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn Affganistan,” meddai Jane Hutt.
“Rydym wedi nodi’n glir ein haddewid bod Cymru’n Genedl Noddfa ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth sy’n bosibl i sicrhau bod dehonglwyr, ffoaduriaid a theuluoedd o Affganistan yn cael eu croesawu.
“Mae Cymru’n Genedl Noddfa – byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi croeso cynnes yn y tymor byr a bydd ein cymunedau, heb os, yn cael eu cyfoethogi gan eu sgiliau a’u profiadau yn y dyfodol agos iawn.
“Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynlluniau hyn ac wedi cynnig eu cefnogaeth a’u cymorth i ddinasyddion Affganistan sy’n cael eu hailgartrefu yn y Deyrnas Unedig.
“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid yn y dull cydweithredol hwn o weithredu Cenedl Noddfa i gydgysylltu’r addewid sylweddol hwn.
“Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch arbennig i Urdd Gobaith Cymru am gael y weledigaeth ddyngarol i sicrhau y gallwn ddarparu croeso arbennig Cymreig i’n ffrindiau newydd o Affganistan.”
“Rhwymedigaeth foesol”
“Mae hyn wedi bod yn ymdrech tîm enfawr i Gymru ar draws pob sector, ac rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid am ein galluogi i agor ein drysau fel noddfa i deuluoedd sy’n chwilio am loches a diogelwch,” ychwanegodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Fel sefydliad, rydym yn falch o helpu ac rydym yn parhau i rannu â’n haelodau bwysigrwydd teyrngarwch i wlad a diwylliant ond hefyd i ddynoliaeth a lles uwch.
“Mae gennym rwymedigaeth foesol fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol i gefnogi prosiectau dyngarol a chynnig llaw o gyfeillgarwch a chefnogaeth i gymuned Affganistan yn eu cyfnod o angen.”
“Cysylltiadau hanesyddol”
Dywedodd y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Comander Brigâd 160 (Cymru), bod cysylltiadau hanesyddol uniongyrchol â Chymru ac unedau sy’n wynebu Cymru ag aelodau o lawer o’r teuluoedd sy’n cyrraedd Cymru.
“Mae Brigâd 160 (Cymru) a’i Chyd-bwyllgor Milwrol (Cymru) wedi’i strwythuro i gefnogi Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol wrth ddelio â sefyllfaoedd mawr fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol pandemig Covid,” meddai Sion Walker.
“Drwy gefnogi’r holl asiantaethau hynny sy’n ymwneud â datblygu cynllun Cymru, mae wedi eu galluogi i ganolbwyntio ar eu meysydd cyfrifoldeb allweddol ac wedi galluogi dwyn cynllun Cymru ynghyd mewn ychydig dros wythnos.
“Mae cysylltiadau hanesyddol uniongyrchol â Chymru ac unedau sy’n wynebu Cymru ac aelodau o lawer o’r teuluoedd hynny sy’n dod i Gymru. Byddant wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn ystod cyfnodau anodd iawn yn Affganistan; mae ein hymwneud yn gydnabyddiaeth o’r gefnogaeth a roddwyd a’r cyfeillgarwch a ddatblygwyd yn ystod yr amseroedd hynny ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud Cymru’n genedl noddfa.”