Mae gogledd Cymru “gam yn nes” at weld ysgol feddygol newydd yn cael ei sefydlu yno.
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu holl gyfnod hyfforddi yn y gogledd.
Mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach i sefydlu ysgol feddygol lawn ac annibynnol yn yr ardal.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i fyfyrwyr ifanc gael lle mewn prifysgolion tu allan i’r ardal i astudio meddygaeth.
Ond ers 2019, mae Prifysgol Bangor wedi cynnig cwrs meddygaeth israddedig ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, gyda lle i 20 myfyriwr ar y rhaglen.
Mae disgwyl i’r nifer hwnnw gynyddu i 25 eleni, ac yna i 40 erbyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Yn y bôn, mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i astudio eu gradd i gyd yn y gogledd, gyda mwy o ffocws ar feddygaeth yn y gymuned ac ystod eang o leoliadau gwaith, sy’n cynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa yn yr ardal.
“Rhoi cyfle” i fwy o fyfyrwyr
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y rhaglen newydd yn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i astudio yng ngogledd Cymru.
“Rydw i am roi cyfle i hyd yn oed fwy o fyfyrwyr astudio tra eu bod wedi’u lleoli yng nghymunedau’r gogledd, oherwydd rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal mor agos â phosibl i gartrefi pobl,” meddai.
“Gwyddom fod heriau wrth recriwtio staff yn y gogledd, a dyna pam rydym am feithrin myfyrwyr meddygol sydd wedi’u haddysgu yma, a’u hannog i aros, yn gyntaf drwy Raglen C21 gogledd Cymru, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus, ac yn y tymor hirach drwy ysgol feddygol gogledd Cymru.
“Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ysgol Feddygol gogledd Cymru wedi adrodd yn ôl ataf i, a byddaf yn sefydlu Bwrdd Rhaglen i roi eu hargymhellion ar waith, a gweithio i sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y gogledd.”
“Carreg filltir bwysig”
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, bod gogledd Cymru “gam yn nes” at weld ysgol feddygol lawn yn cael ei sefydlu yno, gan nodi ei bod hi wedi brwydro ers amser i sicrhau ysgol feddygol yn y gogledd.
“Mae Plaid Cymru a minnau wedi dadlau ers amser fod hyfforddi meddygon ym Mangor yn rhan hanfodol o’r ymdrech i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’r bobol rwy’n eu cynrychioli ac i holl drigolion gogledd Cymru,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru nawr yn paratoi i gyflwyno ysgol feddygol lawn ac annibynnol ym Mangor.
“Mae hynny, ynghyd â mwy o fyfyrwyr meddygol yn hyfforddi yng ngogledd Cymru, i’w ddathlu a’i groesawu a bydd yn garreg filltir bwysig yn y broses o gyflawni ein huchelgais hirsefydlog o ysgol feddygol lawn yng ngogledd Cymru,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae’n hanfodol bod bwrdd y rhaglen newydd yn gweithio’n gyflym ac yn effeithiol fel y gallwn weld cynnydd gwirioneddol dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd, y Gweinidog Iechyd, gyda Phrifysgol Caerdydd a Bangor a phartneriaid eraill, wrth inni symud ymlaen i sefydlu’r ysgol feddygol ar sylfeini cryf, gan dynnu ar brofiadau o leoedd eraill ac archwilio ffyrdd arloesol o weithio, yn enwedig o safbwynt hyfforddi meddygon mewn amgylchedd wledig.”
Lleihau bwlch
Mae rhai myfyrwyr wedi bod yn derbyn addysg ym Mangor ers 2019, yn cynnwys Magi Tudur, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs meddygaeth.
“Dw i’n teimlo’n gryf y byddai cael ysgol feddygol ym Mangor yn gwneud lles enfawr i iechyd trigolion y gogledd,” meddai wrth golwg360.
“Mae profiad o astudio mewn lle gwledig fel Bangor yn hollol wahanol i astudio mewn dinas fel Caerdydd, a dw i’n meddwl y byddai cael y dewis i astudio ym Mangor yn werthfawr i lawer.
“Allan o’r myfyrwyr dw i’n eu hadnabod sy’n astudio yng Nghaerdydd, mae sawl un wedi dweud eu bod nhw am aros yno i weithio ar ôl graddio.
“Y gobaith ydy y byddai’r un fath yn digwydd petai yno ysgol feddygol ym Mangor, a byddai’r bwlch o feddygon yn cael ei lenwi yma’n y gogledd.”