Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi penderfynu cyfyngu ymhellach ar ymweliadau i’w hysbytai yn sgil cynnydd mewn cleifion sy’n profi’n bositif am Covid-19.

Mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i aelodau’r cyhoedd beidio ymweld ag unrhyw un o’u hysbytai, sydd wedi’u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful o fory (dydd Gwener, Medi 10), gydag ambell eithriad.

Mae golwg360 yn deall bod o leiaf un o ysbytai’r bwrdd iechyd wedi bod yn caniatáu ymweliadau hanner awr i un person penodedig wedi’u bwcio ymlaen llaw cyn hyn a bod y rheiny, ar rai adegau, wedi bod ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae eithriadau i’r rheolau yn cynnwys ymweld â chlaf sy’n derbyn gofal diwedd oes a menyw sy’n rhoi genedigaeth.

Yn ogystal ag ar ddiwedd oes, mae’r eithriadau’n cynnwys:

  • Un partner neu berson cymorth i gael dod gyda menyw yn ystod y cyfnod esgor sefydledig, ac yn ystod y cyfnod ôl-enedigol cyn naill ai trosglwyddo i’r cartref neu i’r ardal ôl-enedigol;
  • Bydd presenoldeb un partner mewn apwyntiadau sgan uwchsain yn gyfyngedig i’r apwyntiadau 12 wythnos (sgan dyddio) ac 20 wythnos (sgan anghysondeb) a rhai sganiau sydd wedi eu trefnu trwy’r gwasanaeth beichiogrwydd cynnar;
  • Pediatreg ac ardaloedd newydd-enedigol (un person yn unig).

Dylai cleifion sy’n ymweld ag ysbytai fel claf allanol wneud hynny ar eu pen eu hunain, meddai’r bwrdd.

Sefyllfa’r bwrdd iechyd

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd mewn achosion positif o fewn ysbytai’r bwrdd iechyd yn y dyddiau diwethaf.

Roedd 112 claf gyda Covid-19 mewn gwlâu ysbytai Cwm Taf Morgannwg ddoe (8 Medi), cynnydd o’r 67 a oedd yn ysbytai’r bwrdd iechyd ddydd Mercher diwethaf (1 Medi).

Mae mwy o bobol gyda Covid-19 yn derbyn gofal dwys ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg nag yn unrhyw un o fyrddau iechyd eraill Cymru, ac mae bron yr un faint o bobol mewn unedau gofal dwys gyda Covid-19 â gyda chyflyrau eraill.

Problem arall sydd wedi codi yw’r cynnydd mewn pobol yn dal y feirws yn ysbytai’r bwrdd iechyd, gyda 26 achos tebygol neu bendant o drosglwyddiadau mewn ysbytai yn yr wythnos ddiwethaf, yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, wrth y BBC fod derbyniadau i ysbytai yn is oherwydd y brechlynnau, ond bod y patrwm diweddar yn achosi pryder.

“Rheoli lefelau Covid-19”

Mae’r newidiadau wedi’u gwneud er mwyn lles diogelwch cleifion a staff, meddai’r Bwrdd Iechyd.

“Rydyn ni wedi cymryd y cam hwn i gyflwyno cyfyngiadau llymach ar ymweliadau yn ein hysbytai oherwydd y cynnydd real iawn rydyn ni’n ei weld yn y nifer o gleifion yn ein hysbytai sydd gyda Covid-19,” meddai Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

“Er gwaethaf lleddfu ar rai cyfyngiadau yn y gymdeithas, rydyn ni’n dal i fyw mewn pandemig, ac mae nifer y cleifion sy’n dost gyda Covid-19 ac sydd angen gofal ysbyty yn cynyddu bob dydd.

“Mae gwneud y penderfyniad anodd hwn i gyfyngu ar ymweliadau yn ei gwneud yn bosibl i ni reoli lefelau Covid-19 yn ein hysbytai, gan gadw ein cleifion a’n staff mor ddiogel â phosibl.

“Cymeraf y cyfle hwn i atgoffa pawb o bwysigrwydd cael y brechiad rhag Covid-19 os ydyn ni’n mynd i lwyddo i arafu lledaeniad y feirws wrth i fisoedd y gaeaf nesáu.”