Mae llefarydd Plaid Cymru dros dwristiaeth wedi codi pryderon ynghylch ymadrodd sydd wedi’i ddefnyddio gan gadeirydd newydd corff twristiaeth Cymru.

Wrth fynegi ei bryder, dywedodd Luke Fletcher, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, bod rhaid i ddatblygiadau twristaidd gael eu gwneud ‘gan’ ac nid ‘i’ bobol Cymru.

Mae Suzy Davies, a fu’n Aelod o Senedd Cymru, wedi’i hethol yn gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, ac wrth dderbyn y rôl dywedodd bod “Cymru’n barod ar gyfer datblygiad economaidd, amgylcheddol pellach”.

Mae’r cyn-wleidydd Torïaidd wedi cymryd drosodd gan yr Athro Andrew Campbell, a fu yn y swydd ers dros dair blynedd, fel cadeirydd y Gynghrair.

“Cynyddu perchnogaeth”

Wrth drafod ei ofnau, rhybuddiodd Luke Fletcher yn erbyn twristiaeth “alldynnol”, gan ddweud bod rhaid archwilio ffyrdd o gynyddu rheolaeth a pherchnogaeth leol.

“Does dim amau pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru, ond am rhy hir mae Cymru wedi cael ei ecsbloetio gan ddiddordebau allanol – math o dwristiaeth alldynnol sy’n defnyddio Cymru fel adnodd,” meddai Luke Fletcher AoS.

“Tra bod angen cymeradwyo pwyslais y cadeirydd newydd ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd, byddwn yn oedi: ‘Ar gyfer pwy mae’r datblygiad?’

“Dw i’n siŵr bod nifer o bobol yn rhannu’r uchelgais o weld Cymru fel lleoliad twristiaeth gynaliadwy o’r safon uchaf, ond rhaid i’r datblygiad hwn ddigwydd ar y cyd â’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio.

“Mae Plaid Cymru wedi galw am fentrau twristaidd sy’n cynnig y fantais fwyaf i gymunedau lleol ers tro, a hoffwn weld mwy o bwyslais ar archwilio ffyrdd o gynyddu rheolaeth a pherchnogaeth leol dros y diwydiant.”