Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai Caerfyrddin yw’r awdurdod lleol â’r cynnydd wythnosol mwyaf mewn cyfraddau Covid-19 yng Nghymru, a gweddill y Deyrnas Unedig.
Dangosa’r ystadegau diweddaraf bod 679.2 achos Covid-19 i bob 100,000 person yn Sir Gaerfyrddin yn y saith niwrnod hyd at 5 Medi, o gymharu â 417.7 wythnos ynghynt.
Mae cynnydd uchel wedi bod yng Nghaerffili hefyd, gyda’r gyfradd yn codi o 383.5 i 611.9.
Er hynny, Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru, gyda chyfradd o 792.7 achos i bob 100,000 person.
O ran cyfraddau brechu, mae dros 75% o bobol ifanc Cymru wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19.
Erbyn hyn, mae 76.8% o bobol ifanc 18 i 29 oed Cymru wedi derbyn un dos o’r brechlyn, ac mae 67.3% o bobol 16 ac 17 oed y wlad wedi derbyn un dos hefyd.
Cyfraddau
Mae’r cyfraddau ar gyfer y saith niwrnod hyd at 5 Medi, a nifer yr achosion mewn cromfachau, yn awdurdodau lleol Cymru fel a ganlyn:
Merthyr Tudful: 792.7 (479)
Abertawe: 709.8 (1750)
Castell-nedd Port Talbot: 682.9 (986)
Sir Gaerfyrddin: 679.2 (1291)
Caerffili: 611.9 (1112)
Rhondda Cynon Taf: 606.1 (1466)
Sir Ddinbych: 570 (551)
Conwy: 552.5 (653)
Bro Morgannwg: 515.9 (698)
Pen-y-bont ar Ogwr: 483.3 (713)
Casnewydd: 473.6 (741)
Gwynedd: 452.2 (566)
Blaenau Gwent: 445.6 (312)
Sir Benfro: 441.8 (560)
Caerdydd: 441 (1628)
Ceredigion: 430.8 (314)
Sir y Fflint: 404.9 (635)
Ynys Môn: 398.9 (281)
Powys: 394.6 (525)
Torfaen: 374.3 (355)
Wrecsam: 346.9 (472)
Sir Fynwy: 322.6 (307)