Mae cyfyngiadau’r pandemig wedi amharu ar addysg a gweithgarwch corfforol pobol ifanc, ynghyd â’u cyfleoedd i gymdeithasu – a dangosa astudiaeth newydd bwysigrwydd rhyngweithio cymdeithasol i bobol ifanc.
Roedd yr effaith ar eu lles yn dibynnu’n fawr ar rywedd, ethnigrwydd ac amddifadedd, yn ôl gwaith ymchwil newydd a wnaeth arolygu profiadau pobol ifanc.
Cafodd yr wybodaeth ei chasglu gan ymchwilwyr data poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe dros bum mis o fis Medi 2020 – cyfnod a oedd yn cynnwys achosion o gau ysgolion.
Eu nod oedd archwilio dangosyddion lles ar gyfer plant a phobol ifanc yn ystod argyfwng Covid-19 er mwyn rhoi argymhellion a oedd yn ymestyn o ysgolion cynradd i addysg uwch.
Canfyddiadau
Mynegodd y plant ifancaf fod angen iddyn nhw chwarae a gweld eu ffrindiau; ar y llaw arall, gofynnodd y plant a’r bobol ifanc hynaf am fwy o gymorth i ymdrin â gorbryder a phwysau addysgol.
Fe wnaeth arolwg HAPPEN At Home ac arolwg Ganolfan Iechyd y Boblogaeth ynghylch Covid-19 a phobl ifanc gofnodi ymddygiadau iechyd nodweddiadol plant a phobol ifanc rhwng wyth oed a 25 oed.
At ei gilydd, cafwyd 6,291 o ymatebion gan 81 o sefydliadau addysg ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â dosbarthiadau chwech, colegau a phrifysgolion.
Dangosodd y canlyniadau fod lles disgyblion cynradd yn well na lles disgyblion uwchradd, a lles bechgyn yn well na merched a’r rhai yr oedd yn well ganddynt beidio â nodi rhywedd.
Roedd lles disgyblion cynradd yn well ymhlith y rhai a oedd yn chwarae gyda ffrindiau, yn byw mewn ardaloedd mwy breintiedig ac yn cael rhagor o gwsg.
Yn ôl yr astudiaeth, roedd gorbryder yn effeithio’n fwy ar ddisgyblion o ethnigrwydd cymysg.
Dywedodd plant y bydden nhw’n hoffi cael chwarae mwy gyda’u ffrindiau, gan amlygu pwysigrwydd cadw cyfleoedd i chwarae, cymdeithasu, a bod yn brysur er mwyn peidio ag ychwanegu at anghydraddoldebau.
“Mae’n hanfodol bod sefydliadau addysg yn cydnabod pwysigrwydd lles eu myfyrwyr ac yn blaenoriaethu eu dymuniadau a’u hanghenion yn hytrach na chanolbwyntio ar adennill tir o ran addysg a phwysau asesu, meddai Dr Michaela James, o Ganolfan Iechyd y Boblogaeth.
“Mae’n amlwg bod pobl ifanc am fod yng nghwmni eu ffrindiau, chwarae a chadw’n brysur, yn ogystal â chael mynediad gwell at gymorth iechyd meddwl, ac mae angen i ni ddiogelu’r cyfleoedd hyn.”
Pwysau dysgu ar-lein
O ganlyniad i orbryder a phwysau i lwyddo wrth ddysgu ar-lein, mae angen rhagor o gymorth iechyd meddwl ar blant hŷn, medd yr ymchwilwyr.
Dywedodd y tîm ei bod hi’n amlwg bod dysgu ar-lein yn destun pryder i ddisgyblion uwchradd, felly mae angen sicrhau bod y broses o ddychwelyd i’r ysgol i gael addysg wyneb yn wyneb yn un hwylus, gan gael gwared ar y pwysau sy’n gysylltiedig ag asesiadau a chyrhaeddiad, a chanolbwyntio ar flaenoriaethu lles a hybu rhagolygon.
Mae’r tîm yn credu y gallai cydnabyddiaeth a chymorth fod yn amhrisiadwy er mwyn atal plant a phobl ifanc rhag dioddef effeithiau hirdymor, yn ogystal â nodi argymhellion y gellir eu rhoi ar waith os ceir cyfyngiadau symud yn y dyfodol.
“Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth, mae’n bwysig bod lles yn uchel ar yr agenda a’n bod ni’n nodi’r ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl ifanc o oedrannau gwahanol,” ychwanegodd Dr Michaela James.