Mae rheolau newydd sy’n amddiffyn cŵn a chathod bach yn dod i rym yng Nghymru heddiw (Dydd Gwener, 10 Medi).
O dan y rheolau newydd, mae hi’n anghyfreithlon i werthwyr masnachol werthu cŵn neu gathod bach os nad ydyn nhw eu hunain wedi’u bridio ar eu safle, a rhaid i’r fam fod yn bresennol.
O hyn ymlaen, ni chaiff neb brynu ci neu gath fach oni bai ei fod ar y safle lle cafodd ei fridio neu mewn canolfan achub neu ailgartrefu.
Mae hyn yn cryfhau’r gwaith o amddiffyn yr anifail, ac yn lleihau’r risg o glefyd neu drawma, gan fod rhai cŵn a chathod bach sy’n cael eu gwerthu gan drydydd parti yn gorfod teithio’n bell a newid dwylo sawl gwaith gan ddygymod ag amgylchiadau newydd yn ifanc iawn.
Bydd y rheoliadau newydd yn cau bylchau yn y gyfraith, ac awdurdodau lleol, mewn cydweithrediad â mudiadau ailgartrefu ac achub, fydd yn gyfrifol am weithredu’r rheolau.
“Dechrau gorau posib”
Wrth i’r rheoliadau newydd ddod i rym, bu’r Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, Lesley Griffiths, yn ymweld â chanolfan newydd y Dogs Trust yng Nghaerdydd.
“Cafodd mwy o sylw ei roi ar ein hanifeiliaid anwes dros y pandemig am iddyn nhw fod yn gymaint o gwmni, cynhaliaeth a thestun llawenydd i lawer o bobl,” meddai Lesley Griffiths.
“Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr bod cymaint o’n hanifeiliaid anwes â phosibl yn cael y dechrau gorau posibl i’w bywyd heb orfod dioddef amodau annerbyniol all arwain at salwch a thrawma.
“Bydd y rheoliadau newydd yn annog pobl i ddangos mwy o barch ac i fod yn fwy cyfrifol, yn enwedig wrth feithrin agweddau plant a phobl ifanc, sef perchenogion anifeiliaid anwes y dyfodol yng Nghymru. Bydd y rheoliadau hefyd yn codi ymwybyddiaeth am safleoedd trwyddedig a’u hawl i werthu anifeiliaid, a byddan nhw’n rhoi’r grym i awdurdodau lleol allu gweithredu os oes pryderon ynghylch sut mae cŵn a chathod yn cael eu bridio a’u gwerthu.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i baratoi’r rheoliadau, gan gynnwys milfeddygon, awdurdodau lleol, elusennau lles anifeiliaid a’r cyhoedd. Mae eu cyfraniad at greu’r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy.”
“Dileu’r fasnach”
Dywedodd Cyfarwyddwr Milfeddygol y Dogs Trust, Paula Boyden, eu bod nhw’n falch iawn bod trydydd partïon wedi’u gwahardd rhag gwerthu cŵn a chathod bach yng Nghymru.
“Lles cŵn ein gwlad yw ein blaenoriaeth bennaf ac mae hwn yn gam pwysig iawn i’n helpu i roi stop ar werthu cŵn bach sydd wedi’u bridio o dan amodau gwael,” meddai Paula Boyden.
“Wedi dweud hynny, dim ond un darn yw hwn yn ein hymdrech i ddileu’r fasnach ofnadwy hon.
“Bydd y Dogs Trust yn falch o gael cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n cyfeillion yn y sector lles anifeiliaid, i ystyried unrhyw fesurau eraill sydd eu hangen i sicrhau bod y gwaharddiad yn cael ei orfodi a’i weithredu.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n cynnwys rheoleiddio mudiadau a llochesi ailgartrefu, mesurau i dracio pob ci bach sy’n cael ei fridio a’i werthu, a chryfhau cynllun teithio anifeiliaid anwes.
“Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at gydweithio â’r Gweinidog i ddiogelu lles cŵn magu a’r cŵn bach sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru yn well.”