Mae Menna Rawlings yn Llysgennad Prydain i Ffrainc ers pythefnos, a hi yw’r ddynes gyntaf yn y swydd ers 207 o flynyddoedd.

Er iddi gael ei geni yng ngogledd Llundain i fam a gafodd ei magu yn y Rhondda, buodd hi’n ymweld yn gyson â Chymru.

“Cafodd fy mam ei geni a’i magu yng nghwm Rhondda, fe wnaeth hi gwrdd â fy nhad yn Llundain felly cefais fy magu yng ngogledd Llundain ond pan oeddwn i’n 18, penderfynodd fy nheulu cyfan ddychwelyd i Gymru”, meddai Menna Rawlings mewn cyfweliad â Newyddion ITV Cymru Wales.

‘Cymru yn gartref’

“Yn ystod fy mhlentyndod, roedden ni’n arfer mynd i fyny ac i lawr yr M4 pryd bynnag y gallen ni, er mwyn gweld teulu, felly dwi wastad wedi teimlo bod Cymru’n gartref,” meddai.

“Dwi wedi teithio o gwmpas y byd lot ond Cymru yw’r lle dwi wastad yn dod adref ac mae’n teimlo’n rhan gref iawn o fy hunaniaeth bersonol.”

Yn llysgennad Prydain i Ffrainc, mae ganddi swyddfa yn Paris, a hi yw’r fenyw gyntaf i ddal y swydd ers dros ddwy ganrif, a hynny ar ôl i 36 o ddynion fod yn y swydd.

Deiliad cyntaf y swydd oedd Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington a gafodd ei benodi yn 1814.

Nododd ar ei chyfrif Twitter bythefnos yn ôl ei bod hi’n dechrau “fy niwrnod cyntaf yn Llysgennad Prydain i Ffrainc”.

Gwireddu Breuddwyd

Ymunodd Menna Rawlings â’r Swyddfa Dramor yn 1989.

Roedd bod yn ddiplomat yn uchelgais ganddi ers gadael y brifysgol.

“Rwy’n cofio ymweld â fy Mamgu pan oeddwn ar fin gorffen yn y brifysgol, ac ar ôl dweud wrthi yr hoffwn ddod yn ddiplomydd, edrychodd arnaf yn hollol syn gan ddweud, “Siawns nad ydych chi’n golygu gwraig ddiplomydd?”

Cyn 1946, cafodd menywod eu gwahardd rhag dod yn ddiplomyddion a hyd at 1973, bu’n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo os oedden nhw’n penderfynu priodi.

Hyd yn oed nawr, wedi’r holl ddatblygiadau i gydraddoldeb, dywed Menna Rawlings ei bod hi wedi dioddef ‘syndrom imposter’ ar ei hymweliad cyntaf â’r Llysgenhadaeth yn Paris.

“Fel menyw a oedd wedi bod i ysgol wladol gyffredin yna Ysgol Economeg Llundain, doeddwn i ddim yn teimlo fel pe bawn i’n ffitio i mewn o gwbl”, meddai ar ôl edrych ar rôl llysgenhadon yn hanesyddol.

“Edrychais ar y rhestr hir, hir honno o’r holl Arglwyddi ac roeddwn i’n meddwl ‘Waw, nawr fi sydd yn y swydd”.

“Roedd traddodiad penodol o ddiplomyddion yn dod yn bennaf o ysgolion preifat a rhai prifysgolion, ac fel rhywun oedd â chefndir gwahanol iawn roedd yn teimlo fel lle anodd iawn i rywun fel fi fynd ymlaen.

“Rwy’n falch iawn o ddweud ei fod wedi newid mewn gwirionedd. Mae tua 30% o’n Llysgenhadon dramor yn fenywod felly mae gennym rywfaint o ffordd i fynd, nid oes cydraddoldeb llwyr eto, ond rwy’n hyderus nawr ei fod yn lle y gall pobol fwrw ymlaen oherwydd eu gwahaniaethau, yn hytrach nag er gwaethaf hynny”.

Hyrwyddo Cymru

Diben diplomyddion yw cynrychioli a diogelu buddiannau y wlad mae nhw’n ei chynrychioli mewn gwlad arall dramor.

Bydd ei gwaith yn cynnwys hwyluso cytundebau strategol, confensiynau masnach, technoleg ynghyd â chynnal cyfeillgarwch.

“Pan fydda i’n mynd adref i Gymru, mae fy mam yn aml yn dal i ddweud, ‘Beth yn union wyt ti’n ei wneud, Menna?’.

“[Rwy’n ebsonio ei fod yn] ymwneud â bod yn brif gynrychiolydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig dramor trwy geisio meithrin cysylltiadau â gwlad arall a hyrwyddo buddiannau Prydeinig, a chynnwys Cymreig yma.

“Mae hynny’n cynnwys hyrwyddo Cymru fel lle i ymweld â hi, mae hyrwyddo’r berthynas rhwng busnesau a chwaraeon yn gyswllt gwych rhwng Cymru a Ffrainc. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Gwpan Rygbi’r Byd yn 2023.

“Fy ngwaith i yw hyrwyddo’r Deyrnas Unedig gyfan gymaint â phosibl yn Ffrainc”.