Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 80 oed mewn eiddo ger Croesoswallt.

Cafodd y pensiynwr ei ganfod mewn tŷ yn Oak Drive ym mhentref Llanfarthin, sydd yn agos i’r ffin â Chymru, meddai Heddlu Gorllewin Mercia.

“Fe wnaeth y dyn farw, yn anffodus, ddydd Mercher, Medi 8, ac nid ydyn ni’n gwybod beth oedd achos y farwolaeth eto,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

“Fodd bynnag, mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad.”

Cafodd dyn 31 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r achos yr un diwrnod, ac mae’n parhau i fod yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw’n credu mai achos unigol oedd y digwyddiad.