Mae Stephen Kinnock wedi talu teyrnged i Jo Cox, a gafodd ei llofruddio yn 2016.

Daw anerchiad emosiynol Aelod Seneddol Llafur Aberafan wrth i Kim Leadbeater, chwaer Jo Cox, draddodi ei haraith gyntaf yn San Steffan ers iddi gael ei hethol i gynrychioli hen etholaeth ei chwaer yn Batley a Spen yn Swydd Efrog.

Roedd Kinnock yn rhannu swyddfa â Jo Cox am flwyddyn, ond roedd yn ei hadnabod ers ugain mlynedd.

‘Mwy yn gyffredin nag sy’n ein gwahanu ni’

“Roedd ganddi ymroddiad diflino i undod tros raniadau, a gafodd ei ymgorffori’n berffaith gan ei sylw enwog fod gennym fwy yn gyffredin nag sy’n ein gwahanu ni,” meddai Stephen Kinnock.

“Ond roedd hi hefyd yn credu’n angerddol mewn sefyll i fyny dros yr hyn oedd yn iawn.

“Ac roedd hi bob amser yn mynegi’r gwir wrth y rhai mewn grym.

“Roedd hi’n crisialu, rwy’n credu, yr hyn y dylai aelod seneddol fod, gan weld ein gwrthwynebwyr fel gwrthwynebwyr yn hytrach na gelynion.

“Doedd hi byth yn ofni dadl, ond bob amser yn fodlon gweithio’n drawsbleidiol os oedd yna fater lle gellid gwneud cynnydd yn well drwy gydweithio er lles y genedl.”

Gwaddol

“Rhaid bod golau llachar ei gwaddol yn dod allan o dywyllwch gwirioneddol marwolaeth Jo,” meddai wedyn.

“Felly gadewch i ni adeiladu gwleidyddiaeth ar sail gobaith ac nid ofn, ar sail parch ac nid casineb, ar sail undod ac nid rhaniad.

“Ond tra y byddwn ni’n trysori gwaddol gyhoeddus Jo, byddaf hefyd yn trysori’r Jo breifat.

“Byddaf yn gweld eisiau ei chyngor, ei chwmni ac uwchlaw popeth arall, ei chyfeillgarwch.

“Roedd hi’n berson diflino o bositif a allai godi fy ysbryd ar ôl y diwrnod mwyaf anodd, yn ffrind gwirioneddol yr wy’n gweld ei heisiau bob dydd rwy’n cerdded trwy ddrws y swyddfa honno.”